Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Sioned Lewis

Sioned Lewis, sy'n gwnselydd ac yn seicotherapydd, yw gwestai Beti a'i Phobol. Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, bu'n gweithio mewn sawl maes gwahanol: yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 gorfu i Sioned adael ei gwaith gan fod ganddi ganser y fron a bu'n gyfnod anodd ofnadwy iddi. Rhwng 1999- 2001 bu Sioned mewn ac allan o wahanol ysbytai. Sioned yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad.

May 07, 202351 min

Iola Ynyr

Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Creadigol ac Ysgrifenwraig yw gwestai Beti a'i Phobol. Byd y ddrama yw ei byd hi ac mae hi'n cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Bu Iola’n dioddef o salwch meddwl - alcoholiaeth ac iselder ac mae hi'n trafod y cyfnod yma gyda Beti George.

Apr 30, 202350 min

Robat Idris

Robat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.

Apr 23, 202351 min

Al Lewis

Y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.

Apr 09, 202350 min

Elin Angharad

Crefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.

Apr 02, 202350 min

Delyth Morgan

Delyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed.

Mar 26, 202351 min

Berwyn Rowlands

Berwyn Rowlands, y trefnydd a 'r cynhyrchydd yw gwestai Beti George, ac mae bellach yn adnabyddus am ei waith gyda Gwobrau Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+. Fe ddaw Berwyn yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae'n sôn am ddylanwad Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy arno. Mae mewn perthynas â Grant ers 34 mlynedd - a nhw oedd y cwpl cyntaf i gael partneriaeth sifil ar Ionawr 25ain 2006.

Mar 19, 202349 min

Pat Morgan

Pat Morgan aelod allweddol o'r band eiconig Datblygu yw gwestai Beti a'i Phobol. "Mae'n magic fel mae hi'n gweithio" geiriau Dave Datblygu. Mae hi'n siarad am ei magwraeth yn y Ficerdy, dechrau grŵp pop Y Cymylau gyda'i chwaer, a'i chariad tuag at gerddoriaeth.

Mar 12, 202351 min

William Owen Roberts - Wil Garn

Awdur nofelau Y Pla, Petrograd, Paris a Paradwys, i enwi ond rhai, yw gwestai Beti George, William Owen Roberts neu Wil Garn i lawer sydd yn ei adnabod. Mae'n trafod beth sydd yn ei ysgogi i ysgrifennu ac yn sôn am ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth lle bu'n rhannu tŷ gyda'r diweddar Iwan Llwyd. Mae hefyd yn trafod ei nofel ddiweddaraf Cymru Fydd.

Mar 05, 202350 min

Cledwyn Jones

Bu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg, yn Hydref 2022 ac yntau'n 99 mlwydd oed. Dyma gyfle i fwynhau plethiad o 2 raglen recordiodd Beti George gydag ef yn 2015. Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans a Robin Williams - ac fe fuont yn perfformio ar lwyfannau nosweithiau llawen ledled Cymru.

Feb 19, 202353 min

Dr Nia Wyn Jones

Darlithydd Hanes Canol Oesol a Modern ym Mhrifysgol Bangor, Dr Nia Wyn Jones yw gwesai Beti George. Daw yn wreiddiol o Abertawe ac wedi blynyddoedd lawer o anhapusrwydd fe benderfynodd gael triniaeth i newid ei rhywedd yn ddiweddar.

Feb 05, 202350 min

Rhiannon Boyle

Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto. Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi ...

Jan 29, 202350 min

Annie Walker

Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times. Mae hi’n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a’r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r ne...

Jan 15, 202352 min

Kath Morgan

Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Ka...

Jan 08, 202352 min

Rhian Morgan

Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a’i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw’r hynaf o dair chwa...

Jan 01, 202351 min

Marc Howells

Marc Howells, Pennaeth Datblygu Pobl a Thalent AstraZeneca, yw gwestai Beti George Mae’n gyfrifol am 100 mil o bobol ar draws y byd, gan weithio rhwng Caergrawnt a’i gartref yng Ngresffordd. Bu’n gweithio gyda’r cwmni yn China, Awstralia a Philadelphia. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywodraethau Sweden, Portiwgal yr Almaen a'r Eidal ar ddatblygu sgiliau 5 miliwn o bobol ar gyfer y dyfodol.

Dec 18, 202251 min

Shan Jamil Ashton

Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiwed...

Dec 11, 202250 min

Sylvia Davies

Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi â’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn...

Dec 04, 202252 min

Y Parchedig John Owain Jones

Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. ...

Nov 27, 202252 min

Iestyn Davies

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y c...

Nov 20, 202251 min

Ann Jones

Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yw gwestai Beti George. Cawn wybod am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, dylanwad y Ffermwyr Ifaic arni, ac am waith Sefydliad y Merched.

Nov 14, 202248 min

Grant Peisley

Grant Peisley sydd yn sgwrsio gyda Beti George, dyn o Awstralia sydd wedi setlo yn ardal Caernarfon ac yn gwneud llawer o waith gydag ynni cymunedol ac yn sefydlwr cwmnïau megis YnNi Teg a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG).

Nov 14, 202249 min

Sioned Llywelyn Williams

Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw busnes Sioned Llywelyn Williams o Lanuwchllyn sydd yn trafod steil a cholur ac am ei amryfal fusnesau yn ei hardal enedigol.

Nov 14, 202247 min

John Derrick, Rheolwr Gyfarwyddwr J. P. Morgan y DU

Beti George yn sgwrsio gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Banc J.P. Morgan ym Mhrydain, John Derrick. Cawn glywed am ei fagwraeth yn Llanelli cyn mynd ati i weithio yn y byd arian yn y ddinas, heb sôn am 3 mlynedd yn gwerthu gwin o gwmpas y byd.

Nov 14, 202247 min

Euros Lyn

Beti George yn sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Euros Lyn. Mae'n son am ei blentyndod a'i fagwraeth mewn llefydd fel Guyana, Llanrug a Chwmtawe,. Hefyd, mae'n sgwrsio am ei waith yn gweithio ar gyfresi fel Dr Who, a'i gynhyrchiad diweddaraf sef y ffilm Dream Horse.

Nov 14, 202251 min

Elis James

Beti George yn sgwrsio gyda'r comedïwr Elis James. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin a'i ddechreuad fel comedïwr, yn ogystal â thrafod ei hoffter mawr o gerddoriaeth a phêl-droed.

Nov 14, 202250 min

Meleri Davies

"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio a...

Nov 13, 202251 min

Eluned Morgan AS

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George. “Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a’i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Beti yn ei holi am yr heriau mae hi’n ei wynebu - o gyfnod Cofid i’r rhestrau aros am driniaethau NHS. ...

Nov 06, 202252 min

Mirain Iwerydd

Y cyflwynydd Mirain Iwerydd yw gwestai Beti George. Mae Mirain yn dod o Grymych ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn, mae hi'n cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 ar fore Sul ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Mae'n byw yn Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg yn y brifysgol yno. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau gwnïo, cymdeithasu a theithio. Mae hi'n ddiolchgar iawn i Fudiad Ffermwyr Ifanc ac yn diolch am yr hyder a gafodd wrth ...

Oct 30, 202249 min

Eurig Druce

Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant. Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti. Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dd...

Oct 23, 202251 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android