Eurig Druce - podcast episode cover

Eurig Druce

Oct 23, 202251 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George.

Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant.

Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti.

Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dde Lloegr yn wreiddiol, a'i Nain yn dod o Drawsfynydd - roedd ei daid yn gweithio yn y camp gerllaw adeg rhyfel fel milwr a chyfarfod felly.

Mae wedi colli rhan fwyaf o’i olwg yn ei llygaid chwith: Pan oedd o rhyw 3-4 oed roedd yn chwarae yn yr ardd efo cane oedd yn dal planhigyn i fyny. Wrth fownsio’r cane, daeth allan o’r ddaear a mynd syth i’w lygaid. Mae’n cofio bod efo’i fam a’i dad, a’r sôn am fynd a fo mewn ambiwlans ac yntau’n dechrau crio. Dim ond 20% o’i olwg sydd ganddo yn ei lygaid, ond gan ei fod wedi digwydd mor ifanc, mae wedi hen addasu.

Mae'n rhannu hanesion ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android