Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Leisa Mererid

Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid. Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae. Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis. Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mew...

Jul 13, 202549 min

Gethin Evans

Gwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant. Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl. Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Ysgol Gynradd Eifion Wyn - Porthmadog ac wedyn yn ei flaen i Ysgol Eifionydd. Bu'n gweithio gydag elu...

Jun 29, 202549 min

Manon Awst

Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bod...

Jun 22, 202549 min

Bethan Sayed

Yn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed. Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgy...

Jun 15, 202549 min

Jess Davies

Beti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein. Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon a...

Jun 08, 202549 min

Ian Keith Jones

Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund. Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n ...

May 25, 202549 min

Iona Roberts

Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy’n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw. "Tyfais fyny yma ym Mh...

May 18, 202549 min

Welsh Whisperer - Andrew Walton

Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans. Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd. Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r ...

May 11, 202549 min

Mandy Watkins

Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales’ Home of the Year' yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o’r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu. Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gw...

May 04, 202549 min

Iwan Steffan

Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl. Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn fra...

Apr 27, 202549 min

Dr Llinos Roberts

Roedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio. Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sôn nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y gofal iechyd gorau. Mae Llinos yn cyflwyno eitemau meddygol ar Prynhawn Da ar S4C, ac yn mwynhau'n ...

Apr 13, 202549 min

Kathy Gittins

Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi’n mynd bob dydd Sul gyda’i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny’r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs...

Apr 06, 202548 min

Rhian Bowen-Davies

Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Ar...

Mar 30, 202550 min

Dr Eurfyl ap Gwilym

Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o’r ffaith fod o ddim yn cyfadde’ ei fod o’n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o’r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You’re the Paxman man! Well Done”. Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datbl...

Mar 23, 202550 min

Mark Williams

Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig . Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed. Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig. ...

Mar 16, 202550 min

Teleri Wyn Davies.

"Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. "Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol". Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr. Mae hi hefyd yn credu y byddai e...

Mar 09, 202550 min

Gareth Parry

Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a’i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i’r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a’r rocers a’r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel ...

Feb 23, 202550 min

Georgia Ruth

Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi. Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf...

Feb 16, 202550 min

Lowri Hedd

Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda’i ddim yn hedfan, o ran egwyddor." Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un. Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o Fôn, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn sia...

Feb 09, 202550 min

Glenda Jones-Williams

Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a’r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i’r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach. Tydi methu credu fod merch sy’n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman m...

Feb 02, 202550 min

Daf James

Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti. Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic yc...

Jan 26, 20251 hr 4 min

Heledd Wyn

Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra ‘roedd e’n mynd trwy gyfnod anodd.

Jan 19, 202551 min

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 2

Dyma’r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda’r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a’i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.

Jan 12, 202551 min

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1

Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug. Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe...

Jan 05, 202557 min

Lisabeth Miles

Yr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gayno...

Dec 22, 202450 min

Eurgain Haf

Daw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

Dec 15, 202450 min

Owain Gwynfryn

Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George. Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn. Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed. Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt....

Dec 08, 202449 min

Anthony Matthews Jones

Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun. Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.

Nov 24, 202449 min

Meirion MacIntyre Huws

Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George. Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd. Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty. Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.

Nov 10, 202449 min

Yr Athro Angharad Puw Davies

Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George. Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn Abertawe Mae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis. Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.

Nov 03, 202449 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android