Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Richard Jones-Parry

Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George. Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd. Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.

Oct 27, 202448 min

Aled Lewis

Aled Lewis yw gwestai Beti George. Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain. Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da. Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio....

Oct 20, 202450 min

Malachy Owain Edwards

Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg. Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni. Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr ...

Oct 13, 202450 min

Iestyn George

Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.

Oct 06, 20241 hr 4 min

Dr Carwyn Jones

Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hi...

Sep 29, 202451 min

Dr Ffion Reynolds

Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw. Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o’r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni’n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o’i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i’w llythyr drwy gael Ffion. Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n...

Sep 22, 202450 min

Iolo Eilian

Beti George sydd yn sgwrsio gyda Iolo Eilian, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cenedlaethol iechyd a gofal yn yr Iwerddon. Mae'n wreiddiol o Lanrug, ac ar ôl treulio amser fel nyrs a gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam a Gogledd Iwerddon, mae bellach yn byw yn Galway gyda'i deulu ac yn gyfrifol am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y weriniaeth, ac yn rheoli cyllid o 23.5 biliwn o bunnoedd.

Sep 15, 202450 min

Yassa Khan

Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George. Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa. Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o’n fachgen o dras Pakis...

Sep 08, 202450 min

Rhodri Ellis Jones

Rhodri Ellis Jones, ffotograffydd dogfen o Ddyffryn Ogwen sy'n byw ger Bologna yn yr Eidal yw gwestai Beti George. Mae wedi gweithio ar draws y byd yn Affrica, Albania, Cuba, Nicaragua ac El Salvador ac wedi dogfennu yn ddiweddar pobol leiafrifol yn China. Mae bellach yn ddinesydd yr Eidal ac yn rhannu hanesion ei blentyndod yn Sling, Tregarth a'r bywyd anturus mae o wedi ei fyw. Fe fydd arddangosfa o'i waith diweddaraf COFIO yn Storiel, Bangor, rhwng Medi'r 7fed tan yr 2il o Dachwedd 2024....

Sep 01, 202450 min

Katie Hall

Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu’n cefnogi’r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rh...

Aug 04, 202450 min

Steffan Donnelly

Beti George sydd yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Steffan yn y swydd ers 2 flynedd ac yn sôn am yr heriau mae nhw'n ei wynebu fel cwmni gan bod y cyllid wedi aros run fath ers 2009. Mae hefyd yn sôn am ei fagwraeth yn Llanfair Pwll, Ynys Môn, ac am ei ddiddordeb yn y theatr ers yn ifanc iawn. Fe dreuliodd wyliau haf ei blentyndod yng Ngogledd Iwerddon, cartref rhieni ei Dad, ac mae ganddo atgofion hapus o ymweliadau a'r ffer...

Jul 28, 202451 min

Y Fonesig Elan Closs Stephens

Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a’i Phobol. Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi’n sôn am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi’n byw bywyd wedi hynny. Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwyn...

Jul 21, 202458 min

Mici Plwm

Yr actor a digrifwr Mici Plwm yw gwestai Beti George. Fe dreuliodd Mici Plwm 12 mlynedd mewn cartref plant a hynny heb weld ei Fam. Fe gafodd brentisiaeth fel trydanwr ac wedyn gyrfa lewyrchus fel diddanwr a chyflwynydd teledu, ac mae'n un o'r ddeuawd Syr Wynff a Plwmsan. Roedd ei Fam, Daphne Eva Barnett, yn ferch i Ernest Barnett Harrison oedd yn Brif Arolygydd yr Oriel Gelf Genedlaethol Llundain. Fe symudodd adeg yr ail ryfel byd i warchod trysorau a chelfi’r wlad.

Jul 14, 202450 min

Alison Roberts

Fe gafodd Alison Roberts ei geni a’i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o’i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi’n siarad Cymraeg gyda'r cleifio...

Jul 07, 202449 min

Myron Lloyd

Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour’. Ar y clawr ô...

Jun 30, 202449 min

Karen Wynne

Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu. Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau. Ar ôl ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreulio...

Jun 23, 202451 min

Ffion Gruffudd

Gwestai Beti George yw Ffion Gruffudd, Cyfreithwraig sydd yn cael ei chydnabod gan fforwm economaidd y byd fel un sydd yn arbenigo ar ddiogelwch seiber. Mae hi'n Bennaeth diogelwch seiber byd eang i gwmni anferth, Allen & Overy and Shearman. Mae Ffion yn ymwneud gydag achosion mawr iawn ac mae llawer iawn o gyfrifoldeb a phwysau ar ei hysgwydd. Mae hi’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan National Cyber Security yma ym Mhrydain a'r FBI yn America. Mae Ffion yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth. Mae...

Jun 16, 202450 min

Nia Bennett

Beti George sy'n sgwrsio gyda Nia Bennett, Cadeirydd Mudiad yr Urdd. Fe gafodd ei hudo i fyd adnoddau dynol HR pan oedd hi'n astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn gweithio ym Mrwsel i Eluned Morgan, bu'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cymdeithas Tai Taf, gan weithio gyda'r gymuned Somali. Mae hi'n frwd dros helpu cwmnïau i lwyddo, a bu'n rhan o ail strwythuro llywodraethant yr Urdd. Mae hi wedi wynebu sawl her ac fe gawn glywed y...

May 26, 202450 min

Dan McCallum

Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George. Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a’i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman. Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda’r Kwrdiaid yn Iraq ac yn fanno y cafodd flas ar weithio i wella cymunedau. Mae Dan yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn...

May 19, 202450 min

Caitlin Kelly

Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a’i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o’r dechrau,”meddai. Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a’i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i ysgol Gatholig merched yn unig. Fe aeth Caitlin ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Rhydychen gyda’r f...

May 12, 202450 min

Dafydd Rhys

Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George. Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd. Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a’i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae’r delyn a’r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a’r teulu yn symud yn aml. Mae Dafydd wedi byw ddwywaith yn ardal Llanelli yn ystod ei fywyd ac felly mae’r ardal yma yn agos iawn at ei...

May 05, 202451 min

Shelley Rees

Shelley Rees yr actores, cyn-wleidydd a chyflwynydd Radio Cymru yw gwestai Beti George. Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu am flynyddoedd wrth iddi bortreadu cymeriad Stacey yn yr opera sebon Pobol y Cwm, ar ôl gadael y gyfres yn 2012 bu’n Gynghorydd yn y Rhondda am 10 mlynedd, tan i ddigwyddiad lle y cafodd y ffin ei groesi ac fe gafodd ei bygwth a gadael y swydd yn fuan wedi hynny. Mae hi’n angerddol am actio ar Gymraeg ac yn ymfalchïo yn ei bro enedigol Ton Pentre yn Cwm Rhondda....

Apr 28, 202451 min

Rhian Cadwaladr

Yr awdur a’r actor Rhian Cadwaladr yw gwestai Beti George, Beti a’i Phobol. Yn wreiddiol o bentre’ Llanberis mae Rhian Cadwaladr wedi ysgrifennu 10 o lyfrau - yn nofelau, llyfrau i blant a llyfrau coginio. ‘Roedd ei Mham yn cadw caffi yn eu cartref yn ystod tymor y gwyliau, ac ers yn blentyn bach mae ganddi ddiddordeb mawr mewn coginio. Diléit arall ydi cerdded, ac mae hi’n sôn am yr her a osododd iddi hi ei hun cyn troi yn 60 mlwydd oed, o gerdded 60 o gopaon, bryniau ac ambell fynydd....

Apr 21, 202450 min

Jonathan Roberts

Jonathan Roberts o’r Bala yn wreiddiol sydd yn gweithio fel Cyfieithydd i gwmni cyfreithiol mawr yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd yw gwestai Beti George. Yn 14 mlwydd oed, ‘roedd o’n ysu i symud o’r Bala i fyw mewn dinas fawr, ac fe fu’n byw yn Lerpwl a Llundain am gyfnod cyn teithio i Frasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas Rio. Mae’n byw mewn fflat sydd yn edrych ar y cerflun o Crist ar y Mynydd. Yn ystod covid fe symudodd am gyfnod i Bortiwgal ac mae’n sôn am ei fywyd diddorol ac yn...

Apr 14, 202450 min

Y Parchedicaf Andy John Archesgob Cymru

Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae’r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur. Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym Mharis a’i Fam yn cwblhau ei gradd ym Mharis yr un pryd. Cyfarfu’r ddau felly. Pan oedd Andy’n rhyw ...

Mar 31, 202450 min

Geraint Jones

Geraint Jones cyn-swyddog cyswllt amaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyn aelod o’r band Rocyn yw gwestai Beti George. Fe fu'n gweithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am 40 mlynedd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a ffermio. Mae bellach yn gweithio fel bownsar neu geidwad drysau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi wynebu dau gyfnod o salwch difrifol, ac yn siarad yn agored iawn am yr heriau a wynebodd.

Mar 24, 202450 min

Hazel Thomas

Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain. Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorc...

Mar 17, 202451 min

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân. Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn...

Mar 12, 20241 hr 17 min

Dr Caroline Turner

Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwys Enfys, Elin Fflur ac anthem Cyngor Ewrop.

Mar 03, 202450 min

Adam Jones

Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth ...

Feb 25, 202451 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android