Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Roc...
Feb 11, 2024•51 min
Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Meleri oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.
Feb 04, 2024•51 min
Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgyngho...
Jan 28, 2024•1 hr 17 min
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i th...
Jan 21, 2024•50 min
Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi’r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad d...
Jan 14, 2024•50 min
Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofleidio’r iaith a’i diwylliant.
Jan 07, 2024•52 min
Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.
Dec 31, 2023•50 min
Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.
Dec 24, 2023•59 min
Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o’r elfen grefyddol yn ei fagwraeth yn Aberafan. Mae bellach wedi symud nôl i'r Gorllewin i fyw ac yn...
Dec 10, 2023•52 min
Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.
Dec 03, 2023•50 min
Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto’n lwyddiant ac mae’n dal i fynd yn Hackney. Ei fenter ddiweddaraf ydi’r tŷ ...
Nov 19, 2023•50 min
Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales. Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bod ym mhob rhan o’i gyrfa hyd yn hyn, ac mae hefyd yn sôn am ei diagnosis llynedd o ADHD a hefyd Reje...
Nov 12, 2023•50 min
Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio g...
Nov 05, 2023•1 hr 12 min
Yr actores Mali Ann Rees ydi gwestai Beti a’i Phobol. A hithau ond yn 17 oed bu’n ddisgybl mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth ryngwladol. Bu ddigon ffodus wedyn i gael ei derbyn i goleg drama yn Llundain ond yn anffodus ni wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno gan i’r coleg gnocio ei hyder yn llwyr. Serch hynny, mae Mali yn un o’r actoresau amlycaf ac wedi actio mewn nifer o gynyrchiadau nodedig fel Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i...
Oct 29, 2023•49 min
Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint ...
Oct 23, 2023•48 min
Mae stori Richard Holt y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn yn llawn troeon annisgwyl. Gradd mewn technoleg cerdd sydd ganddo o Brifysgol Caerdydd, ond ar ôl gweithio mewn tai bwyta yn Ynys Môn ac i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain fe gafodd ei ddadrithio a rhwng swyddi coginio fe aeth at y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo ddim yr arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Yna tro annisgwyl arall a hynny ar ôl darllen llyfr 'Think and Grow Rich' pan ar ei wyliau yn y Grand...
Oct 08, 2023•50 min
Pediatrydd yw gwestai Beti George a dreuliodd ei yrfa fel ymgynghorydd gofal plant yn Abertawe. Wedyn fe aeth i faes y gyfraith gan roi tystiolaeth mewn achosion Llys yn ymwneud a phlant. Yn y 30 mlynedd ers iddo ddechrau yn y maes yma mae wedi rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ar draws gweledydd Prydain ac yn Iwerddon, ond achos Lucy Letby a garcharwyd am oes am lofruddio babanod bach oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer yw'r un mwyaf heriol hyd yma. Fe oedd un o brif dystion yr erlyniad....
Oct 01, 2023•49 min
Meinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd. Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael y cyfle i wneud gwaith tebyg 'dream job' oedd ei geiriau. Bu hefyd yn sôn fod ganddi ddyled fawr i ...
Sep 03, 2023•57 min
Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Mae’n parhau i weithio’n ddyfal yn datblygu addysg Gy...
Aug 27, 2023•50 min
Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru. Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i lei...
Aug 11, 2023•51 min
Gwestai Beti George yw Mared Rand Jones sydd wedi cychwyn ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ers Ionawr 2023. Magwyd Mared ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr. Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni actio Theatr Felinfach ac yn actio’r cymeriad 'PC Wpsi Deisi' yn y pantomeim Nadolig blynyddol....
Jul 23, 2023•50 min
Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig. Mae'n byw ym Machynlleth ac yn rhannu straeon am ei phlentyndod, ei dylanwadau cerddorol megis Nansi Richards, a Siân James. Mae'n trafod cerddoriaeth gwerin a'r feirniadaeth fu am ei gwaith a hefyd yn teimlo bod angen siarad mwy am rhywedd.
Jul 09, 2023•51 min
Gwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Boston yn yr Unol Dalaethiau ar ôl cael cymrodoriaeth i Harvard. Mae'n mwynhau dringo yn ei amser sbâr...
Jul 02, 2023•50 min
Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu y...
Jun 25, 2023•52 min
Edward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin. Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a’r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae Edward wedi dechrau pennod newydd yn ei fywyd, wrth iddo rannu ei amser rhwng Llangristiolus...
Jun 18, 2023•51 min
Beti George yn sgwrsio gyda Carwyn Graves awdur a hanesydd bwyd Cymru. Carwyn yw awdur 'Afalau Cymru' a'r gyfrol o ysgrifau am fwyd 'Welsh Food Stories'. Mae Carwyn newydd gychwyn ar swydd newydd yng Nghanolfan Tir Glas, Llanbed sy'n fenter newydd sbon ar y cyd â’r Brifysgol yn Llanbed. Maent yn ceisio creu canolfan arloesol o gwmpas bwyd cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n bosib astudio bwyd os ydi rhywun yn awyddus i redeg tŷ bwyta neu astudio bwyd o safbwynt gwyddonol fel maetheg. Ond does dim c...
Jun 11, 2023•50 min
Bethan Marlow, dramodydd sy'n sgwennu ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu, yw gwestai Beti George. Bethan yw'r dramodydd cyntaf i ddefnyddio arddull verbatim yn y Gymraeg, sef defnyddio geiriau go iawn pobol a'u troi yn ddramâu. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, bu Bethan yn byw yn Llundain, Caerdydd a Miami a bellach mae hi wedi ymgartrefu gyda Carolina a'r plant yn Lanzarote. Llun: Kristina Banholzer
Jun 04, 2023•50 min
Fel teyrnged i’r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004. Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
May 28, 2023•49 min
Artist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o’n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.
May 21, 2023•50 min
Beti George yn sgwrsio gyda Betty Williams Gwleidydd Llafur. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle. Mae hi'n rhannu straeon difyr ei bywyd ac yn dewis ambell gân.
May 14, 2023•50 min