Meinir Howells - podcast episode cover

Meinir Howells

Sep 03, 202357 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Meinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd.

Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael y cyfle i wneud gwaith tebyg 'dream job' oedd ei geiriau. Bu hefyd yn sôn fod ganddi ddyled fawr i Fudiad y Ffermwyr Ieuanc, ac na fyddai yn cyflwyno heddiw oni bai am y profiadau a gafodd gyda hwy.

Mae Meinir yn weithgar gyda’r gymuned yn codi arian tuag at elusennau gwahanol, Tir Dewi, Ambiwlans Awyr ac elusennau cancr.

Ar hyn o bryd mae hi yng nghanol ffilmio'r gyfres Ffermio, S4C a 3ydd cyfres Teulu Shadog a fydd yn cael ei darlledu mis Mawrth 2024.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android