Karen Wynne - podcast episode cover

Karen Wynne

Jun 23, 202451 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu.

Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau.

Ar ôl ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreuliodd bymtheg mlynedd yn portreadu un o gymeriadau Rownd a Rownd. Ond pan ddaeth hynny i ben fe drodd at fyd hud a lledrith a bellach mae'n defnyddio'r gelfyddyd honno i helpu plant i fagu hyder ac i helpu pobol sydd yn fregus yn feddyliol.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android