Rhian Cadwaladr
Apr 21, 2024•50 min
Episode description
Yr awdur a’r actor Rhian Cadwaladr yw gwestai Beti George, Beti a’i Phobol.
Yn wreiddiol o bentre’ Llanberis mae Rhian Cadwaladr wedi ysgrifennu 10 o lyfrau - yn nofelau, llyfrau i blant a llyfrau coginio. ‘Roedd ei Mham yn cadw caffi yn eu cartref yn ystod tymor y gwyliau, ac ers yn blentyn bach mae ganddi ddiddordeb mawr mewn coginio.
Diléit arall ydi cerdded, ac mae hi’n sôn am yr her a osododd iddi hi ei hun cyn troi yn 60 mlwydd oed, o gerdded 60 o gopaon, bryniau ac ambell fynydd.
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
