Y Fonesig Elan Closs Stephens - podcast episode cover

Y Fonesig Elan Closs Stephens

Jul 21, 202458 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a’i Phobol. Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi’n sôn am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi’n byw bywyd wedi hynny.

Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.

Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android