Myron Lloyd - podcast episode cover

Myron Lloyd

Jun 30, 202449 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour’. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.

Cafodd Myron ei derbyn i fynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino’n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo’r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi’n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.

Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae’n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android