Sylvia Davies - podcast episode cover

Sylvia Davies

Dec 04, 202252 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fyddai fel arall yn mynd i'r domen sbwriel.

Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi â’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod â’r galar.

Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yng Ngwlad Thai, a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu straeon o'i bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android