Rhiannon Boyle - podcast episode cover

Rhiannon Boyle

Jan 29, 202350 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol.

Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well.

O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto.

Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd.

Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android