Shan Jamil  Ashton - podcast episode cover

Shan Jamil Ashton

Dec 11, 202250 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George.

Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest.

Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru.

Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy’r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd.

Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi’n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi!

Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android