Annie Walker - podcast episode cover

Annie Walker

Jan 15, 202352 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul.

Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times.

Mae hi’n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a’r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r newyddiadurwr a’r darlledwr Giles Coren.

Fe enillodd Ann gystadleuaeth yng nghylchgrawn GIRL. Cafodd dipyn o syndod o gael ei galw i gyfweliad yn Llundain gan fod 17,000 o ferched wedi anfon lluniau i mewn i'r cylchgrawn. Y wobr oedd cael mynd i Florence yn yr Eidal i weld lluniau a cherfluniau o'r Dadeni (Renaissance). Joyce Fitzwilliams oedd yr athrawes gyda hi i Florence, ac roedd yn drip anhygoel, gan gyfarfod â Pietro Annigoni yn ei stiwdio. 'Roedd ef wedi dod yn enwog iawn ar ôl gwneud portread o'r Frenhines. 'Roedd yna erthygl ar y trip mewn cylchgrawn poblogaidd ar y pryd o'r enw 'Picture Post'. Yr un flwyddyn yng nghylchgrawn y bechgyn - yr 'Eagle' enillodd James Dyson y wobr gyntaf a David Hockney y drydedd wobr.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android