Kath Morgan - podcast episode cover

Kath Morgan

Jan 08, 202352 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol.

Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau.

Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd.

Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed.

Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa.

Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android