Rhian Morgan - podcast episode cover

Rhian Morgan

Jan 01, 202351 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad.

Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo.

Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a’i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw’r hynaf o dair chwaer; mae Nia yn nyrs yn Awstralia ac mae Elen yn darlithio a chyfarwyddo. Mae Rhian yn briod gydag Aled Samuel ac mae ganddi ddau o feibion.

Ar hyd y blynyddoedd mae Rhian wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i chwarae nifer fawr o rannau mewn dramâu ac mewn cynyrchiadau teledu, mae’n sôn am rai ohonynt gan gynnwys y cyfle i actio efo Anthony Hopkins yn y ffilm August.

For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android