Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Joe Healy

Joe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dewis ei hoff ganeuon yn cynnwys rhai gan Breichiau Hir a Datblygu. Llun: Dafydd Owen - ffotoNant....

Oct 16, 202251 min

Bethan Wyn Jones

Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd yn y Daily Post Cymraeg ydy gwestai Beti George yr wythnos hon, sef Bethan Wyn Jones. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Cafodd ei magu ym mhentref Talwrn ger Llangefni ac mae Bethan yn dal i fyw yn yr un tŷ. Mae hi'n rhannu hanesion bywyd ac yn trafod galar gyda Beti ac yn credu nad ydym ni'n siarad digon amdano.

Oct 09, 202252 min

Rhiannon Evans

Ers pum degawd, mae Gemwaith Rhiannon wedi bod yn ganolbwynt i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd yn nhref Tregaron. Sŵoleg oedd ei phwnc gradd ac mae ganddi ddoethur hefyd. Hi oedd y cyntaf erioed i wneud PhD yn y Gymraeg a hynny ar bwnc ymbortheg anifeiliaid, ond yn hytrach na dilyn y trywydd yma, fe drodd at fyd busnes ac agor siop grefftau yn Nhregaron. Roedd hi’n un o dri gafodd brynu aur Cymreig, ac mae ei gemwaith Celtaidd yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi dysgu ei hun i wneud y gwa...

Oct 02, 202250 min

Karl Davies

Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma. Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr. Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i’r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd...

Sep 25, 202252 min

Hefin Wyn

Awdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn yw gwestai Beti. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am gerddoriaeth Cymraeg, am Meic Stevens, Waldo a Niclas y Glais ac yn gyn newyddiadurwr gyda'r BBC a HTV. Bu hefyd yn Ohebydd adloniant Y Cymro, ac fe ddisgrifiodd Beti ef fel 'Llysgennad dros Sir Benfro'. Mae'n rhannu straeon ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

Sep 18, 202251 min

Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn sydd yn sgwrsio gyda Beti George.

Aug 28, 202253 min

Ann Catrin Evans

Ann Catrin Evans sydd yn gwmni i Beti George.

Aug 15, 202245 min

Ifan Jones Evans

Beti George sydd yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Ifan Jones Evans

Aug 07, 202248 min

Nicola Davies

Cobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor y Sioe Frenhinol. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd Cyngor y Sioe.

Jul 10, 202252 min

Meirion Jones

Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones. Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y...

Jul 03, 202251 min

Catrin Atkins

Catrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni. Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith. Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn y sioe Cirque du Soleil yn Vegas, ac yn byw yno gyda’i deulu ers 10 ...

Jun 19, 202252 min

Geraint Davies

Wrth iddo ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda ar ôl 30 mlynedd yn y swydd, mae Beti yn sgwrsio gyda Geraint Davies. Cawn glywed am ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, fferyllydd lleol, a'i rôl flaenllaw yn ei glwb tennis lleol.

Jun 12, 202250 min

Ceri Isfryn

Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad ...

Jun 05, 202251 min

Siân Eirian

"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrw...

May 29, 202241 min

Russell Isaac

Russell Isaac yw gwestai Beti George - cyn-newyddiadurwr, sydd bellach yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig ac i gorff yn Asia sydd yn paratoi'r gwledydd rhag y trychinebau sydd yn debygol o ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.

May 22, 202250 min

Dr Sara Louise Wheeler

Beti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler. Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Mae ganddi gyflwr genetig prin, sef Syndrom Waardenburg Math 1, sy'n golygu fod ganddi ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea - ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu drama gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef y ‘Y Dywysoges Arian’, sy’n mynd i’r afael â c...

May 15, 202249 min

Catrin Ellis Jones

Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda’r bobol gynhenid. Mae h...

May 08, 202250 min

Meleri Tudur

Y gyfraith yw maes gwestai Beti ai Phobol a hynny gyda’r Tribiwnlysoedd. Mae’n Farnwr yn Ddirprwy Lywydd y Siambr, mae ganddi sedd yn yr Uchel Lys a hi yw’r Barnwr sydd yn arwain ar foderneiddio’r llysoedd, ac mae hi’n fam i 5 o ferched. Meleri Tudur sydd yn cadw cwmni gyda Beti George.

May 01, 202250 min

Dyfed Edwards

Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i’r Coleg Normal ym Mangor i astudi...

Apr 24, 202249 min

Dai Jones

Fel teyrnged i’r diweddar Dai Jones Llanilar, dyma gyfle eto i wrando ar ei sgwrs gyda Beti George o 2002 , rhaglen arbennig a recordiwyd gyda chynulleidfa yn Neuadd Rhydypennau, Aberystwyth.

Apr 17, 202250 min

Carren Lewis

Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn triniaeth IVF fe benderfynon nhw fabwysiadu. Mae Carren yn sôn am y cartref plant amddifaid yn Diyar...

Apr 10, 202248 min

Beks - Rebekah James

Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.

Apr 03, 202253 min

Tegryn Jones

Tegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 i sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Mar 27, 202252 min

Elin Mai

Elin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai... Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Holden a'r comedïwr Keith Lemon. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i...

Mar 20, 202251 min

Gwenan Roberts

Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni. Cafodd ei chyflwyno i feddylgarwch tua deunaw mlynedd yn ôl ac yr oedd ei ymarfer yn hanfodol iddi yn...

Mar 13, 202251 min

Siân Elen Tomos

Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant an...

Mar 07, 202250 min

Wyn Thomas

Wyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

Feb 20, 202247 min

Edward Keith Jones

Edward Keith Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Brif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mynydda yw ei ddiléit pennaf, ac fe ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonynt, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Yn yr 8 mis diwethaf fe gafodd salwch difrifol a olygodd wythnosau lawer yn yr ysbyty yn ymladd am ei fywyd.

Feb 13, 202249 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android