Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Elin Prydderch

Elin Prydderch yw gwestai Beti George, merch sydd yn wreiddiol o Nasareth yn Nyffryn Nantlle. Mae hi'n Faethegydd ac yn Adweithegydd, yn Fam i 3 a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y corff ac mewn bwyta bwyd iach sydd yn gwneud i ni deimlo'n well. Fe gafodd ddiagnosis o Ddyslecsia'n oedolyn ac mae hi'n rhannu profiadau bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon o Sunami i Sia.

Feb 06, 202249 min

Theo Davies-Lewis

Beti George yn sgwrsio gyda Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol am ei fagwraeth yn Llanelli, ei gyfnod yn Coleg Llanymddyfri, a Phrifysgol Rhydychen. Yn 24 mlwydd oed mae'n ysgrifennu colofnau i'r cylchgrawn The Spectator ac yn cyfrannu i'r Times ac fe yw prif sylwebydd gwleidyddol y National Wales. Mae'n rhannu profiadau ac yn dewis darnau o gerddoriaeth sydd yn agos at ei galon.

Jan 30, 202252 min

Rebecca Elizabeth Roberts

Beti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Jan 23, 202252 min

Geraint Jones

Yr Athro Geraint Jones, Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau, UCL Llundain yw gwestai Beti George. Mae ganddo asteroid sydd wedi ei enwi ar ei ôl a hefyd mae ganddo record yn y Guinness Book of Records gan iddo ddarganfod cynffon comed hiraf erioed ar y pryd. Mab fferm Bryn Hyrddin, Pentraeth Ynys Môn ydi Geraint, fe aeth i Ysgol Gynradd Pentraeth. Roedd ganddo ddiddordeb yn y gofod bryd hynny ond doedd na neb arall yn wyddonwyr yn y teulu. Bu wedyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun David Hughes ym Mhortha...

Jan 16, 202254 min

Samuel Kurtz

Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ein Senedd ni yn y Bae. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ, sefydliad ac elusen iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn cefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n dewis ambell gân sydd wedi creu argraff gan gynnwys Dafydd Iwan a Shed Seven.

Jan 09, 202254 min

Kristoffer Hughes

Kristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George. Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy. Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Mae'n sôn ei fod wedi dioddef o 'body dysmorphia' - " Oni byth yn ffitio mewn, 'o ni'n tyfu i fyny fel...

Jan 02, 202253 min

Mei Jones

Rhaglen deyrnged i'r diweddar Mei Jones yr actor, sgriptiwr ac awdur wnaeth greu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg, Fe recordiodd Beti George ddwy raglen gydag ef yn 2004 ac fe'i darlledwyd ar ddau Sul yn olynol - a dyma gyfle i chi eu clywed.

Dec 19, 202155 min

John Alwyn Griffiths

Awdur nofelau Ditectif a cyn Ditectif Arolygydd yn yr Adran dwyll yng Ngogledd Cymru John Alwyn Griffiths yw gwestai Beti George. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mangor a'i waith fel plismon, ditectif ac fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Dwyll. Pan oedd John yn fachgen ifanc yn yr ysgol doedd gan yr athrawon ddim llawer o hyder ynddo, medda fo. Feddyliodd neb y byddai’r bachgen hwnnw rhyw ddiwrnod yn awdur poblogaidd ac wedi cael gyrfa lwyddiannus yn yr heddlu. Mi helpodd ei brofiad o weithio efo’r ...

Dec 12, 202153 min

Laura Karadog

Laura Karadog ydi'r cwmni, ac fe gawn glywed am ei magwraeth yn Nhal-y-bont ger Bangor, a'i chyfnod hapus yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen - a'i thaith yn 12eg mlwydd oed i Czechoslovakia. Mae hi'n sôn am y profiad o fyw yn Tokyo, gweithio yn San Steffan a'i chyfnod yn Philadelphia yn dysgu mwy am y Crynwyr. Fe fu'n brwydro'r clefyd anorecsia yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth, a dyna wnaeth iddi droi at Yoga. Erbyn hyn mae hi'n byw ym Mhontyberem ar ôl cyfnod o fyw gyd...

Dec 05, 202154 min

Dr Robin Parry

Dr Robin Parry, meddyg teulu yn Llanberis am dros 30 mlynedd ydi gwestai Beti George. Ei gariad cyntaf yw pysgota ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Torgoch sy'n byw yn Llyn Padarn. Mae newydd ymddeol ac yn sôn am ei gyfnod yn hyfforddi ym Manceinion ac yn trafod yr heriau mae meddygon wedi ei wynebu yn ystod y pandenig. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Edward H i ganeuon Opera Eidalaidd.

Nov 28, 202151 min

Steffan Huws

Beti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Nov 21, 202155 min

Elin Llwyd Morgan

Mae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd. Mae hi'n sôn am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y môr ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

Nov 07, 202155 min

Dr Paula Roberts

Beti George yn sgwrsio gydag Dr Paula Roberts sydd wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ac wedi seiclo yn yr Himalayas a Uzbekistan.

Oct 31, 202155 min

Philippa Gibson

Philippa Gibson sydd yn sgwrsio gyda Beti George, merch o Fryste sydd wedi setlo yn Llanrgannog ac yn gwneud llawer o waith yn ei chymuned. Mae hi hefyd yn fardd yn diwtor iaith ac yn blymar ac yn ymgyrchu dros newid hinsawdd.

Oct 24, 202151 min

Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.

Cyn i'r Eisteddfod AmGen ddechrau, mae Beti George yn sgwrsio gyda'r Archdderwydd Myrddin Ap Dafydd am ei gefndir a'i ddylanwadau cynnar yn Llanrwst, ac am ei natur o fentergarwch.

Sep 13, 202148 min

Dylan Rhys Jones

Beti George yn sgwrsio gyda'r cyn-gyfreithiwr troseddol, Dylan Rhys Jones. Dylan yw awdur y llyfr "The Man in Black" sydd yn sôn am brofiadau Dylan o fod yn gyfreithiwr amddiffynnol i'r llofrudd Peter Moore ynghanol nawdegau'r ganrif ddiwethaf.

Sep 12, 202151 min

Andria Doherty

Gwestai Beti George yw'r actores Andria Doherty, ddaeth i'r amlwg yn y gyfres "It's a Sin" fel y cymeriad Eileen Morris-Jones. Cawn ei hanes cynnar yng Nghwm Tawe ac am ei gwaith fel nyrs cyn i salwch ei tharo a golygu bod hi'n newid cyfeiriad o ran gyrfa.

Sep 11, 202146 min

D. L. Davies

Beti George yn sgwrsio gydag un o frodorion Cwm Cynon, yr hanesydd a'r athro Cymraeg, D. L. Davies. Cawn hanes ei blentyndod fel un o blant cyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberdâr, a hefyd ei brofiad fel athro Cymraeg Ail Iaith am dros chwarter canrif yn Ysgol Uwchradd Afon Taf.

Sep 10, 202149 min

Llinos Medi Huws

Gwestai Beti George yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Y Cynghorydd Llinos Medi Huws. Cawn gyfle i glywed am ei magwraeth ar fferm fach Ffleicws ger Llanddona, ac am gyfnodau heriol wrth iddi dyfu fyny.

Sep 10, 202149 min

Tomos Grace

Beti George yn sgwrsio â Tomos Grace, Pennaeth cynnwys Chwaraeon Youtube yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Sep 10, 202149 min

Owain Fôn Williams

Gwestai Beti George ar ddechrau Cystadleuaeth yr Ewro's yw'r gôl-geidwad ac un o garfan tîm llwyddiannus Cymru yn Ewros 2016, Owain Fôn Williams.

Sep 10, 202149 min

Tom Evans

Gwestai Beti George yw'r Parch. Tom Evans a fu'n gweithio i Gymorth Cristnogol am nifer o flynyddoedd cyn troi at gaplaniaeth gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed Powys.

Sep 10, 202150 min

Paul Sambrook

Gwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.

Sep 10, 202150 min

Maxine Hughes

Gwestai Beti George yw'r newyddiadurwraig Maxine Hughes, o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC. Cawn glywed am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig yn Nhwrci ac yn gohebu ar farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Sep 10, 202149 min

Sara Yassine

Fel rhan o Tafwyl, mae Beti George yn holi'r ferch ifanc o Gaerdydd Sara Yassine lle mae hi'n sôn am dyfu fyny fel merch Mwslemaidd Gymraeg yn y brifddinas.

Sep 10, 202148 min

Llinos Elin Owen

Gwestai Beti yw'r baswnydd Llinos Elin Owen, sydd yn Brif Faswnydd i Symffonia'r Ballet Brenhinol yn Birmingham. Mae hi'n sôn am y ddamwain cafodd hi yn 2009 a newidiodd ei bywyd yn llwyr. Erbyn hyn mae hi'n ceufadu (kayaking) i dîm Paralympaidd Prydain.

Sep 10, 202148 min

Jên Angharad

Y ddawnswraig egniol Jên Angharad yw gwestai Beti George. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.

May 27, 202150 min

Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Beti George yn sgwrsio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.

May 26, 202150 min

Rhys Patchell

Beti George yn sgwrsio gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.

May 25, 202150 min

Gerallt Pennant

Un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru, Gerallt Pennant sy'n cadw cwmni i Beti George. Mae'n sôn am farwolaeth ei dad pan oedd e'n fachgen ifanc ac effaith hynny arno, yn ogystal â'i fagwraeth ym Mryncir, ble roedd ei rieni yn "cadw fisitors".

May 24, 202148 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android