Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Mae'r bennod hon o Yr Hen Iaith yn archwilio 'Marwnad Owain ab Urien' gan Taliesin, gan drafod y traddodiad o fawl mewn marwnadau a'r cyd-destun Cristnogol. Mae'r athrawon yn dadansoddi themâu arwriaeth, haelioni, a gweddi yn y gerdd, gan dynnu sylw at arwyddocâd hanesyddol a llenyddol Owain.
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd ...
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyf...
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau ...
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very s...
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol....
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg. * This episode focusses on Gerallt Lloyd Owen's poem, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel'. As well as scrutinising the p...
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol Comin Greenham. * We discuss Menna Elfen's 'Mother's Day at Greenham, 1984' in this episode. Jerry H...
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd s...
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon. * In this ep...
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdriniaeth â salwch meddwl, tlodi, crefydd a chreulondeb. Nodwn hefyd wrth fynd heibio fod y gwaith arloes...
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth...
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysicaf Cymru. Bydd penodau sy’n canolbwyntio ar y nofelau Un Nos Ola Leuad a Martha, Jac a Sianco yn cael...
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi, ein dilynwyr presennol, yn eu mwynhau hefyd. (Yn wir, mae wedi bod yn fodd i ni lenwi ambell fwlch ...
Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif’ yn y teitl yw ‘cynharaf’; dyma lyfr sy’n trafod hanes cynnar y Cymry – neu’r Hen Frytaniaid – ac m...
Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg â phechod? A sut mae’n gwneud hynny? A pham poeni cymaint am yr canu mawl, a’r traddodiad hwnnw’n gwegian os nad yn prysur chwalu ar y pryd? Ystyriwn hefyd ymdrech Elli...
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith. Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond e...
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adferiad yr hen drefn a ddaeth gydag adferiad y frenhiniaeth yn 1660, a’r bobl bellach yn rhydd o’r cyf...
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu g...
A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y byddai llawer yn ‘gwatwar’ y syniadau crefyddol newydd yr oedd yn eu cyflwyno iddynt. Eglurwn hefyd ma...
‘Dwi rŵan yn dallt y ffys’ yw geiriau Richard Wyn Jones ar ôl cael cyflwyniad i ryddiaith Morgan Llwyd yn y bennod hon. Ac yntau’n Biwritan a geisiai gyflwyno math o Brotestaniaeth a oedd yn fygythiol o estron i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, manteisiai Morgan Llwyd ar ei brofiad fel pregethwr a’i ddoniau llenyddol syfrdanol i gyrraedd calonnau a meddyliau darllenwyr Cymraeg. Trafodwn y cymysgedd o syniadau crefyddol a ddylanwadodd ar ei waith. Ond yn bennaf, rhyfeddwn at rym rhyddiaith Morgan Llwy...
Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau traddodiadol o ganu serch wedi’u haddasu hyd yn oed, wrth i ferch ganu am filwr seneddol a geisiodd e...
Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I. Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawe...
Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol. Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan...
Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620. ‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrod...
Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn. Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n mynegi galar y gŵr mewn modd personol a chofiadwy. Trafodwn wedyn gyfres o englynion a gyfansoddasai C...
A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i wa...
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r ...
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin. Mae’r stori’n cael ei ...
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl. Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod...