Yr Hen Iaith - podcast cover

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaithpodcasts.apple.com
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Episodes

Pennod 47 - 'Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod. Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir...

Aug 15, 202435 min

Pennod 46 - Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru

Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad. Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd. Cyhoeddi llyfrau Cy...

Aug 01, 202442 min

Pennod 45 - ‘Cymraeg iawn i’r Cymry i gyd’: Beibl 1588

Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair llenyddol aruchel arhosol. Mae’r undod ieithyddol hwn wedi profi’n hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth G...

Jul 18, 202435 min

Pennod 44 - Yr Hen a’r Newydd, Y Gwir a’r Gau: Rhagymadrodd Richard Davies

‘Dwi wir wedi fy llorio gan hyn’ yw un o’r pethau a ddywed Richard Wyn Jones ar ôl clywed am ragymadrodd syfrdanol yr Esgob Richard Davies i Destament Newydd 1567. Dyma ysgrif lenyddol fywiog sy’n hynod ddiddorol – ac yn hynod arwyddocoal – o safbwynt hunaniaeth Gymreig y cyfnod. Mae hefyd yn ddarn o bropanda Brotestannaidd sy’n troi’r gwirionedd y tu chwith allan gan ddarlunio’r Hen Frytaniaid fel rhyw fath o broto-Brotestaniaid a honni mai dychwelyd eu hen ffydd iddynt yn hytrach na’u cyflwyno...

Jul 04, 202430 min

Pennod 43 - Testament Newydd 1567

Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Elizabeth I am yr hyn a wnaeth ei thad, Harri VIII, i’r Gymraeg gyda’r ‘Deddfau Uno’, dadleuwn i’r gwrth...

Jun 20, 202432 min

Pennod 42 - Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog

Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gy...

Jun 06, 202421 min

Pennod 41 - Maniffesto William Salesbury

Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar...

May 23, 202453 min

Pennod 40 - Dyneiddiaeth Gymreig

Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!). Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewro...

May 09, 202430 min

Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print

Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg ar...

Apr 25, 202437 min

Pennod 38 - Alis Wen

Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn r...

Apr 11, 202441 min

Pennod 37 - Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)

Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd g...

Mar 28, 202436 min

Pennod 36 - Elis Gruffydd (Rhan 1)

Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod ...

Mar 14, 202458 min

Pennod 35 -Gwydnwch Hen Draddodiad

Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2) Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd. Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfn...

Feb 29, 202435 min

Pennod 34 - Cyfnod Newydd?

Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiado...

Feb 15, 202441 min

Pennod 33 -Cyflwyno’r Ail Gyfres

Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid. Introducing our second series Here’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations that came in the Tudor period.

Feb 01, 20244 min

Pennod 32 - Diwedd yr Oesau Canol

Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw. / The End of the Middle Ages Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones's llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history...

Jan 18, 20245 min

Pennod 31 - Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd

Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei ...

Jan 04, 202432 min

Pennod 30 - ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud

Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaste...

Dec 21, 202344 min

Pennod 29 - Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn

Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes. Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er...

Dec 07, 202339 min

Pennod 28 - ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr

Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adlon...

Nov 23, 202338 min

Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain

Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith ga...

Nov 09, 202330 min

Pennod 26 - Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)

Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl. Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merche...

Oct 26, 202340 min

Pennod 25 - Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)

Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ...

Oct 12, 202341 min

Pennod 24 - Meddwi’n Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)

Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y d...

Sep 28, 202342 min

Pennod 23 - Seintiau a Phechaduriaid

Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Tr...

Sep 14, 202344 min

Pennod 22 - Calon Oer dan Fron o Fraw

Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw ...

Aug 31, 202334 min

Pennod 21 - Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu

Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n can...

Aug 17, 202356 min

Pennod 20 - Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion

Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feir...

Aug 03, 202350 min

Pennod 19 - ‘Iarlles y Ffynnon’, nid ‘Owain’

Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’. Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o driawd o gymeriadau benywaidd cryf a byw a geir yn y stori hon. Y hi sy’n rheoli yn ei theyrnas, er bod y marchog du yn gwarchod y ffynnon hudolus sy’n...

Jul 21, 202354 min

Pennod 18 - Marchocffordd Peredur

Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud wrtho mai ‘angylion’ yw’r marchogion a wêl un diwrnod, mae’r hogyn ifanc yn mynnu dilyn y dynion arfog ar y ‘farchocffordd’ a dysgu bod yn farchog ei...

Jul 13, 202340 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast