Yr Hen Iaith - podcast cover

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaithpodcasts.apple.com
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Episodes

Pennod 17 - Breuddwyd Rhyfeddol Rhonabwy

Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei freuddwyd mae’n teithio o’r presennol i’r gorffennol Arthuraidd. Mae’n rhaid i’r arweinydd chwedlonol...

Jul 06, 202340 min

Pennod 16 - Geraint a’i shorts sidan

Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enwau Cymraeg yma, nifer ohonynt â gwreiddiau dwfn iawn yn chwedloniaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwy...

Jun 29, 202351 min

Pennod 15 - Roc-an-Rôl a’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd

Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymreig traddodiadol ond sydd hefyd yn ddyledus mewn modd amlwg iawn i ddylanwadau ‘estron’? Awgrymwn fod hanes roc-an-rôl yn cynnig cymhariaeth hylaw. A be...

Jun 22, 202342 min

Pennod 14 - O’r Apocalyps Arthuraidd i Fashion Casualties: Hanes Cryno Cad Gamlan

Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar. Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur. Awgrymwn fod traddodiadau’n ymwneud â’r ‘Apocalyps Arthuraidd’ yma yn fodd i strwythuro’r holl stori Arthuraidd fawr, fel y mae myfyrdodau apocalyptaidd yn ...

Jun 15, 202346 min

Pennod 13 - Ennill Olwen

Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!) Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn ddisgrifiad trawiadol a chofiadwy ohoni – ac wedyn mae’n rhaid i’r saith wynebu’r Pencawr ei hun. Ac mae’n rhaid iddynt gyflawni llwyth o wahanol das...

Jun 08, 202334 min

Pennod 12 - Arthur y Barbwr

Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i gael hyd i Olwen a’i phriodi, ac mae stori werin draddodiadol am arwr yn priodi merch y cawr yn ffr...

Jun 01, 202352 min

Pennod 11 - Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?

O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb. Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gem...

May 25, 202330 min

Pennod 10 - Llais Heledd

Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy. Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y ...

May 18, 202338 min

Pennod 8 - Dau Frawd a Thair Gormes

Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc....

Apr 27, 202346 min

Pennod 7 - Trafferthion Teuluol Math

Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’. Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu traff...

Apr 20, 202353 min

Pennod 6 - Manawydan a Seiliau Cymdeithas

Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad. Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabinogi. Yn dilyn y rhyfel apocalyptaidd a ddaw ar ddiwedd yr Ail Gainc, rydym ni’n dilyn dau o’r goroe...

Apr 13, 202346 min

Pennod 5 - Chwedl Branwen

Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r ...

Apr 06, 202352 min

Pennod 4 - Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed

Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, brenin Annwfn a Rhiannon, gwraig Pwyll – ei helpu. Mae Rhiannon ymysg cymeriadau mwyaf cofiadwy’r trad...

Mar 30, 202349 min

Pennod 3 - Y Chwedlau Brodorol

Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiweddar sydd wedi dylanwadu ar sut mae Cymry Cymraeg yn trafod y corff pwysig hwn o lenyddiaeth eu iait...

Mar 23, 202340 min

Pennod 2 - Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)

Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau: Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymra...

Mar 16, 202350 min

Pennod 1 - Yn y dechreuad yr oedd... Y Gododdin (wel, efallai...)

Yn y bennod gyntaf hon trafodwn y gerdd (neu’r casgliad o gerddi cysylltiedig) a briodolir i’r bardd Aneirin, gan archwilio dadleuon sy’n cefnogi – ac sy’n herio – y gred gyffredin mai’r farddoniaeth hon yw’r testun llenyddol Cymraeg cynharach sydd wedi goroesi. A yw’n bosib bod gwaith llenyddol am frwydr a ymladdwyd tua’r flwyddyn 600 yn yr Hen Ogledd (sef de’r Alban a gogledd Lloegr) wedi’i gadw mewn llawysgrif Gymraeg o’r 13eg ganrif? Beth mae’r Gododdin yn dweud wrthym am y traddodiad barddo...

Mar 09, 202345 min

Trêlyr Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Ac hefyd, os dych chi'n joio gwrando ar y pod, gadewch adolygiad neu sgôr yn eich hoff ap podlediadau.

Feb 28, 20234 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast