Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad
Mar 23, 2025•33 min
Episode description
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod.
Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdriniaeth â salwch meddwl, tlodi, crefydd a chreulondeb. Nodwn hefyd wrth fynd heibio fod y gwaith arloesol hwn wedi cael effaith sylweddol ar artistiaid Cymraeg eraill.
*
We discuss Un Nos Ola Leuad in this episode while filming at the National Library of Wales, with Caradog Prichard's own notebook with one of his original plans for the novel and a draft of a chapter in front of us.
We consider the style of this remarkable work and the way it moves between dialectal and formal tones. We explore many aspects of the novel, including its treatment of mental illness, poverty, religion and cruelty. We also note in passing that this innovative work has had a significant impact on other Welsh artists.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol:
- Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resources-legacy.wjec.co.uk/pages/ResourceSingle.aspx?rIid=389
- Y gân ‘Un Nos Ola Leuad’ gan Endaf Emlyn: https://www.youtube.com/watch?v=-2_MCXtL2uI
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast