Ar Blât – Elinor Snowsill Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…? Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad Always Dros Frecwast – Toiledau...
Apr 30, 2024•18 min
1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49. Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn: Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations 2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28. Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan? Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Sa...
Apr 23, 2024•18 min
Pigion y Dysgwyr – Francesca Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil... (Y)stumiau Gestures Ymchwil Research Ystrydebol Cliched Ymwybodol Aware Sylwi To notice Hunaniaeth Identity Am wn i I suppose Mynegi To express Lleisiau Voices Barn An opinion Pigion y Dysgwyr – Ll...
Apr 16, 2024•16 min
Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224 Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel War Atgofion Memories Mynyddog Mountainous Anferth Huge Bobol annwyl Goodness me Llong Ship Grawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets...
Apr 09, 2024•16 min
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produce Ar y cyd Together Hybu To promote Maeth Nutrition Troellwr Spinner Atgofion Memories Agwedd Aspect Lles Welfare Manteisio ar To take advantage of Addas Suitable Pigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael ...
Apr 02, 2024•14 min
Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr Saddler Cymwysterau Qualifications Ffodus Lwcus Creadigol Creative Ail-greu To recreate Lledr Leather Cyfrwy Saddle Ar waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mi...
Mar 26, 2024•17 min
DROS GINIO 11.03.24 Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg? Ympryd A fast Cymuned Community Nodi To mark Crefyddol Religous Datgelu To reveal Hunanddisgyblaeth Self discipline Llai ffodus Less fortunate Ansicrwydd Uncertainty Heriol Challenging Adlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24 Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dro...
Mar 19, 2024•16 min
BORE COTHI 04.03.24 Gredwch chi fod 50 mlynedd ers i Abba ennill yr Eurovision gyda’u cân Waterloo? Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes a buodd hi’n holi’r arbenigwr pop, Phil Davies, am lwyddiant Abba. Llwyddiant Success Sbort a sbri Fun Ysgariad Divorce Dwfn Deep Cyfnod Period DROS GINIO 04.03.24 Ie, mae caneuon Abba dal yn boblogaidd on’dyn nhw? Mae’n pedwardeg o flynyddoedd ers Streic y Glowyr a buodd Rhodri Llywelyn yn holi Amanda Powell, sydd ar fin cyhoeddi llyfr ar y streic....
Mar 12, 2024•15 min
TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302 Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed? Prif leisydd Main vocalist Ffyddlon Faithful Ymwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502 A miwsig Y Cledrau oedd i’w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on’d ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwe...
Mar 05, 2024•17 min
Pigion Dysgwyr – Japan Wythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol Aware Yn llythrennol Literally Gofod Space Yn y bôn Essentially Lle ddaru Ble wnaeth Y tu hwnt Beyond Rheolau Rules Parch Respect Ymddwyn To behave Meistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam Jones Traddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddor...
Feb 27, 2024•14 min
Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday Crempogau/pancos Pancakes Poblogaidd Popular Iseldiroedd Netherlands Ffrimpan Padell ffrio Burum Yeast Dwlu ar Hoff iawn o Gwead Texture Twym Cynnes Dodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau s...
Feb 20, 2024•12 min
Pigion Dysgwyr – Max Boyce Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio Talu Teyrnged To pay a tribute Wastad Always Cyfweliad Interview Cae o ŷd A field of corn Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod Gostyngedig Humble Dewin A wizard Sylw Attention Amlwg Prominent Enwogrwydd Fame Pigion Dysgwyr -Twr Marcwis A...
Feb 13, 2024•13 min
Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent Cemetery Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological Trust Ddaru nhw Wnaethon nhw Ymchwil...
Feb 06, 2024•13 min
Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb Petition Llofnodion Signatures Prif Weithredwr Chief Executive Gwyrthiau Miracles Bras Bold Tristwch Sadness Cefnogwyr Fans Digwyddiad Event Pigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni gly...
Jan 30, 2024•13 min
Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a’r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish Army Catrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul from Cipio To capture Gwlad Pwyl Poland Dengid Dianc Rhyddhau To rel...
Jan 23, 2024•13 min
Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi. Cyfres Series Ymdrin â To deal with Mabwysiadu To adopt Hoyw Gay Tyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen ...
Jan 16, 2024•13 min
Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd Representative Gŵyl gerddorol Musical festival Safon Quality Anelu ato To aim for Datganiad Recital Yn elfennol bwysig Of prime importance Cydbwysedd Balance Cyfansoddwyr Composers Cyfei...
Jan 09, 2024•16 min
1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen: Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen Llŷn, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs. Arwyddocâd Significance Cysgod diogel Safe shelter Delfrydol Ideal Dyfnder Depth Porthladdoedd Ports Gofaint Blacksmith Seiri Carpenters Safle diwydiannol An industrial site Gan fwya Mostly Argian Good ...
Jan 02, 2024•21 min
1 Uffern Iaith y Nefoedd: Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon: Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells 2 Elin Fflur a’r Gerddorfa: Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna. Ddechrau’r ...
Dec 26, 2023•20 min
1 Aled Hughes : Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae’n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion: Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru’r llwch Disp...
Dec 19, 2023•15 min
Pigion 12fed Rhagfyr: 1 Bore Coth: Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs: Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger 2 Beti a’i Phobol: Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymrae...
Dec 12, 2023•16 min
1 Bore Cothi: Sioe Aeaf. Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed? Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion 2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig. Roedd Ffion, Leia a Shâ...
Dec 05, 2023•18 min
1 Byd y Bandiau Pres: Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae’r ddau, pan oedd Owain yn aelod o’r band a John yn arwain: Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwy...
Nov 28, 2023•16 min
Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma’s Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna’n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi’n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i ...
Nov 21, 2023•16 min
Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi’n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo’r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei bic...
Nov 14, 2023•18 min
Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma: Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae’n dweud bod ganddo’r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o’n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion: Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy ...
Nov 07, 2023•17 min
Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae’r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi: Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i’n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu’r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars! Fel rhan o Wythnos Dathlu Dys...
Oct 31, 2023•16 min
Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy’n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o’r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i’r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg, on’d dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o’r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl i...
Oct 24, 2023•13 min
Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw’r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna’n sôn am ei obsesiwn gyda ch...
Oct 17, 2023•12 min
Pigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e’n chwarae’r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn Instrument Cadeirlan Cathedral Tŷ Ddewi St David‘s Prif organydd Chief organist Dirgrynu Vibrating Datsain Echo Pigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i’n siwr bod dyfodol disglair i’r organydd ifanc. Mae stori Richar...
Oct 10, 2023•13 min