Y Podlediad Dysgu Cymraeg - podcast cover

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023

Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc T...

Oct 03, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar huga...

Sep 27, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023

Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences Gwerthfawr Valuable Cyflwyno To present Teimlo’n gartrefol Feeling at home I ryw raddau To some exte...

Sep 19, 202317 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 12fed 2023

Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r ...

Sep 12, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 5ed 2023

CERYS MATTHEWS YN HOLI… Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi... Alawon Tunes Ystyried To consider Offerynnau Instruments Trefniadau Arrangements Cofnodi To record (in writing) Barddoniaeth Poetry Ddim llawer o bwys Dim llawer o ots Hen dad-cu Great grandfather Erw Acre Trosglwyddo To transmit BORE SUL …ie mae Dafydd Iwan yma o hyd – pen-blwydd hapus iawn Dafydd! Iwa...

Sep 05, 202316 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 29ain 2023

Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti’n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli T...

Aug 29, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell ...

Aug 22, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfo...

Aug 15, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023

Pigion Dysgwyr – Lloyd Lewis Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol... Yn ddiweddar Recently Aml-hil Mixed-race Amrywiaeth Variety Ystyried To consider Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn ...

Aug 08, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn re...

Aug 01, 202318 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023

Pigion Dysgwyr – Deborah Morgante Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid….. Gwres tanbaid Intense heat Môr y Canoldir Mediterranean Sea Rhufain Rome Mewn gwirionedd In reality Rhybuddio To warn Oriau mân y bore The early hour...

Jul 25, 202311 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Bore Sul Mae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ……… Cogydd Chef Ar fin About to Dylanwadu To influence Cynhwysion Ingredients Gwair Grass Gwymon Seaweed Crancod Crabs Cynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma A phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson...

Jul 18, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae’n ddilys It’s valid Mynegi eich hunain To express yourselves...

Jul 11, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep’s milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau ...

Jul 04, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thoma...

Jun 27, 202311 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith... Bant I ffwrdd Cledrau Rails (of railway) Pasg Easter Galluogi To enable Yn ddi-dor Uninterrupted Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma c...

Jun 20, 202311 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023

Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar.. Ddaru ni Wnaethon ni Estyniad Extention Yn werth ei weld Worth seeing Llymaid A swig Coelio Credu Gwaith haearn Iron works Gwyrth Miracle Caniatâd Permission Sefyll yn llonydd Standing still (H)wyrach Efallai Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander Llongyfarchiadau i T...

Jun 13, 202312 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Bur...

Jun 06, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000...

May 31, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Ewan Smith ...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw… Cylchgronnau Merched Women’s magazines Aelod Member Hen Ferchetan Old Maid (title of folk song) Prif gymeriad Main character Am hwyl For fun Gwasg Press Cyhoeddi Publish Yn seiliedig ar Based on Yn addas i Suitable for Pigion Dysgwyr – Wil ...

May 23, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Fai 2023

Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d...

May 16, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Sioned Lewis Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n...

May 09, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni….. Ariannin Argentina Ysbrydoli To inspire Barddoni To write poetry Tirwedd Landscape Ysbryd Spirit Daearyddiaeth gorfforol Geography Dychymyg Imagination Ysgogi To motivate Dig...

May 02, 202313 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

Pigion Dysgwyr – Nia Williams Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio... Chwerthin Laughter Treiddio i mewn To penetrate Ymwybodol Aware Ysbrydoli To inspire Cadwyn A chain Pryderus Concerned Dygymod efo To cope with Dychwelyd To return Parhau To continue Pigion Dysgwyr – Andy Bell Nia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am...

Apr 26, 202315 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Ebrill 2023

Bore Cothi Dim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert Del Yn ôl According to Cenhedlaeth Generation Mo’yn Eisiau Llywodraeth Cymru The Welsh Government Ffili credu Methu coelio Yn gyffredinol Generally Llwyfan Stage Y Talwrn Angharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn b...

Apr 18, 202311 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwy...

Apr 11, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio… Toddi To melt Mae’n debyg Probably Amrwd Raw Rhannu To share Argymell To recommend Pigion Dysgwyr – Troi’r Tir Mae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gw...

Apr 03, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad Beirniaid Judges Cyfres Series Credwch e neu beidio Believe it or not Cyfrinach Secret Cyfansoddi To compose Angladd Funeral Hysbys(eb) Advert Mabwys...

Mar 27, 202314 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysg...

Mar 21, 202317 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Fawrth 2023

Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Dyn ni i gyd wedi clywed, mae’n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda’r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe’n sôn yn gynta’ am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu. Prinder Scarcity Tueddol o To tend to Yn glou Quick Aeddfedu To ripen Tŷ gwydr Greenhouse Anferth Huge Hadau Seeds Chwynnu To weed Olew olewydd Oli...

Mar 14, 202314 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android