Y Podlediad Dysgu Cymraeg - podcast cover

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp Sport Bant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwbl Croesawu To welcome Meddylfryd Mindset Rhannu profiadau To share experiences Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad Gwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i d...

Aug 02, 202214 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short list Cyhoeddi To announce Castell-nedd Neath Sir Fynwy Monmouthshire Cwrs dwys Intensive c...

Jul 26, 202214 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

Cor y Byd Llangollen Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd Conductor Ymarfer Rehearsal Datblygu To develop Paratoi To prepare Llwyfan A stage Symudiadau Movements Cerddorion Musicians Creu To create Balch Proud Anwen bowlio i'r gymanwlad …a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am ...

Jul 19, 202213 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Dros Ginio Beti a Raymond Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiar Llwyddiant ysgubol - A roaring success Petrusgar - Hesitant Y naill a’r llall - One or the other Trychineb - Disaster Ffasiwn beth - Such a thing Am wn i - As far as I know Serth - Steep...

Jul 12, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022

Dei Tomos Gwilym Owen Dw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor... Bonheddwr - Genlteman Mewn gwirionedd - In reality Fawr hŷn - Hardly any older Pwys mawr - Great pressure Cyfo...

Jul 05, 202212 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022

Beti a'i Phobol Aled Roberts Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - Challenges Hwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leader Hamddenol - Leisurely Gwthio - To push Aw...

Jun 29, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022

Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi’n gwybod mae’r Ffindir a’r Swistir ydy’r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o’r Swistir a Tristan Owen Williams o’r Ffindir. Dyma nhw’n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws. Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - B...

Jun 21, 202217 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022

Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Express...

Jun 14, 202214 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 7fed 2022

Beti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George... Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Difla...

Jun 07, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022

Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain... Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran G...

May 31, 202217 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022

Dei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly? Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd. Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr ...

May 24, 202213 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 17fed 2022

Beti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno... Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challenge Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol. Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley...

May 17, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a h...

May 10, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 3ydd 2022

Aled Hughes a Vaughn Smith Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish language Vaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei da...

May 03, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022

Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o be...

Apr 26, 202214 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 19eg 2022

Stiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct...

Apr 19, 202219 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 12fed 2022

Troi'r Tir Lamb Cam Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes... Tymor wyna - Lambing season Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History Ffrydio - To stream Yn gyfrifol am - Responsible for Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact ...

Apr 12, 202214 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022

Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effects A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ...

Apr 05, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 29ain 2022

Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolio...

Mar 29, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 22ain 2022

Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and that Falmai Jones oedd honna'n ...

Mar 22, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 15fed 2022

Geraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne ...

Mar 15, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 8fed 2022

Bore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei ford...

Mar 08, 202221 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022

Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality G...

Mar 01, 202217 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022

Mali Ann Rees Bore Sul Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi. Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnag Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderf...

Feb 22, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022

Bore Cothi ac Aled Jones Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhagl...

Feb 15, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 8fed 2022

1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth... Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan c...

Feb 08, 202216 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo... Ana...

Feb 04, 202217 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022

1. Aled Hughes a Melanie Owen Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed? Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addas...

Jan 28, 202217 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022

1) Aled Hughes - David Bowie Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe... Y fenga Yr ifanca Cynhyrchu To produce Ymchwilio To research Llewygu To faint Gofod Space Dychmygu To imagine Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust 2) Cofio - Ymarfer Corff Ffion Jones oedd honna'n sôn am ei hobsesiwn gyda David ...

Jan 21, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022

1) Cofio 02/01/22 Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd... Y flwyddyn flaenorol The previous year Ail-ddarlledu To rebroadcast Atgofion Memories Ddaru Wnaeth Gweithwyr cyffredin Ordinary workers Enwogion ...

Jan 14, 202217 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android