Y Podlediad Dysgu Cymraeg - podcast cover

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 7fed 2022

Ifan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21 Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan… Enwebu To nominate Tlws Trophy Cyfleus Convenient Cymorth Help Ar flaenau fy nhraed On my toes Astrus Anodd Yn barhaol Constantly Beti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer Hughes Tony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywely...

Jan 07, 202215 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

01. Aled Hughes – Elfyn Jones Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes Yn union Exactly Gorchuddio To cover Anhygoel Incredible Denu To attract Ceudyllau Potholes Twyllodrus Deceptive Amgylchi...

Dec 31, 202117 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021

01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn Lliw Dillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’… Hyfforddwr delwedd Image coach Cynllunio To plan Canolbwyntio To concentrate Pwysigrwydd Importance Arna chdi Arnot ti Cymryd sylw To pay attention Ysbryd Spirit Dos Cer Yr union liw The exact colour Penodol Specific Drych Mirror Coelio Credu 02. Beti a'i Phobol – Mei Jones I glywed mwy o’r sg...

Dec 24, 202116 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021

1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between them Yr un cylchoedd The same circles Dyn diethr A strang...

Dec 17, 202113 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021

01. Beti – Laura Karadog Clip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno…. San Steffan Westminster Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree Breintiedig Privileged Yn rheolaidd Regularly Erchyll Awful Hurt Stupid Dinistrio bywydau Destroying lives Di...

Dec 10, 202118 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021

01. GBYH - Leisa Mererid Pam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol Increasingly Dyrys Complex Ymwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodies Delwedd corff Body image Heriau bywyd Life challenges Angor Anchor Gorbryder Anxiety Isymwybod Subconscious Myfyrio To meditate Synhwyrau Senses Gorlethu To overwhelm 02. Aled ...

Dec 03, 202116 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021

01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed Woodpecker Creaduriaid Creatures Nythu To nest Ymddangos To appear Rhyfedd iawn Very strange Onglau Angles Madfall Lizard Neidr Snake...

Nov 26, 202117 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021

1. Dros Ginio - Pabi Coch Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio… Deillio To derive Claddu To bury Ffrind pennaf Best friend Ysbrydoliaeth Inspiration Teyrnged Tribute Arferiad Custom Mabwysiadu To adopt Yn ddiw...

Nov 19, 202115 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021

1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda ...

Nov 12, 202119 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Dachwedd 2021

1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green Mae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia Diwylliannol Cultural Her A challenge Dealledig Understood Ariannin Argent...

Nov 05, 202117 min

Pigion y Dysgwyr 29ain Hydref 2021

Aled Hughes – Erin Fflur a Mari Elen Mae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a’r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy’r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda’r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs... Cenhedlaeth Generation Y diweddara The most recent Rheoli To control Ar gyrion On the outskirts Praidd Flock Canolbwyntio To concentrate Amynedd Patience Dallt Deall Cyngor Advice Yn y gwaed In the ...

Oct 29, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021

CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig ...

Oct 22, 202115 min

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONED Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o’r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â’r un clefyd. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd Disease Ymlaen llaw Before h...

Oct 15, 202114 min

Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021

Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy’n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni’n mynd at raglen … BORE COTHI Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni,...

Oct 08, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T...

Oct 01, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN …blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg. Amgen Alternative Telynau Harps Llina...

Sep 24, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 17eg Medi 2021

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai’r gadair neu’r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e’n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn? Barddoniaeth Poetry Ond yn hytrach But rather Synhwyrau ...

Sep 17, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 10fed Medi 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, a’r wythnos hon dyn ni’n edrych yn ôl ar bythefnos o raglenni Radio Cymru a dechreuwn ni gyda …” SHAN COTHI ....sgwrs rhwng Shan Cothi a Bardd y Mis, mis Awst sef Yr Athro Derec Llwyd Morgan. Gofynnodd Shan iddo fe ddisgrifio ei haf perffaith a dyma i chi Derec yn sôn am hafau ei blentyndod... Yr Athro - Professsor Llwyth o atgofion - Loads of memories Lle mag...

Sep 10, 202117 min

Pigion y Dysgwyr 27ain Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros Ginio Padlfyrddio - Paddle boarding Buddsoddi - To invest Ansawdd - Quality Hyfforddwyr - Trai...

Aug 27, 202114 min

Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio’ wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - War Dogni - Rations Gwerthfawrogi - To appreciate Enwogion - Celebraties Digri - Fu...

Aug 20, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 13eg Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro’r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion… Cyfres - Series Arwydd - A sign Eithriadol - Exceptional Yn ddiweddar - Recently Canolbarth Lloegr - The Midlands ...

Aug 13, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Gwneud Bywyd Yn Haws Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws… Ymestyn - To extend Yr ail gyfnod clo - The second lockdown Sa i’n mynd gartref...

Aug 06, 202114 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Orffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … LISA ANGHARAD Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae’n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o’r hanesion rannodd e am ei wyliau.... Cyflwynyd...

Jul 30, 202116 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Orffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Sioe Frecwast Caryl a Huw Mae Caryl Parry Jones a Huw Stephens yn cyflwyno’r sioe frecwast bob bore ar RC2 – a does dim byd gwell nac oes yna, na dechra’r bore gyda llond trol o chwerthin. A dyna’n union ddigwyddodd wythnos diwetha wrth i’r criw ymarfer eu hacenion Americanaidd… Cyflwyno Presenting LLond troll o chwerthin A barre...

Jul 23, 202114 min

Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi’n sôn am sut oedd hi’n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au. Gohebydd - Correspondent Rhyfel -...

Jul 16, 202116 min

Pigion y Dysgwyr 9fed Gorffennaf 2020

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIOE FRECWAST …Un o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos ‘ma a dyma hi’n ateb cwestiwn am wyliau tramor… Cyflwynwyr - Presenters Prydfertha - The most beautiful Digon teg - Fair enough Mwya trawiadol - Most striking Tempro - To air O’r cyfryw wely - From the sai...

Jul 09, 202114 min

Pigion y Dysgwyr 2il Gorffennaf 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GERAINT LLOYD …mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi’n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu’r iaith… Safon - Standard Anghredadwy - Unbelievable Ysbrydoliaeth - Inspiration Yn falch - Proud Is-deitlau - Subtitles Cyfnod Allweddol - Key Stage Drysau - Doors Di...

Jul 02, 202116 min

Pigion Dysgwyr 25ain Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa’r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o’r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau… Sylwebu - Commentating Ychwanegu - To add Syth b...

Jun 25, 202117 min

Pigion y Dysgwyr 18fed Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau’n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru... Gêm gyfartal - Drawn game Gohirio - To postpone Pencampwriaeth - Championship ...

Jun 18, 202115 min

Pigion y Dysgwyr 11fed Mehefin 2021

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Credwch neu beidio roedd hi’n wythnos dathlu llaeth, neu lefrith, yr wythnos diwetha felly penderfynodd Bore Cothi ofyn i’r cogydd Kit ELlis rannu rhai o’i hoff ryseitiau llaeth – a daeth hi’n amlwg ei bod hi’n ffan mawr o’r stwff gwyn... Yr un fagwraeth - The same upbringing Godro - Milking Cyflawn - Complete Cryfhau -...

Jun 11, 202116 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android