Y Podlediad Dysgu Cymraeg - podcast cover

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Sgwrsio: Fleur de Lys

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.

Jul 09, 202540 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Gorffennaf 2, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Mehefin yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod CLIP 1 Gemau’r Gymanwlad: Commonwealth Games O ‘mynadd…: Oh, can’t be bothered Fatha ffordd arall o ddweud Fel CLIP 2 Gwlad Groeg: Greece Y Llyfrgell Genedlaethol: The National Library Chwilfrydig iawn: Very curious Wedi ei argraffu: Printed Diwylliant: Cultu...

Jul 02, 202528 min

Sgwrsio: Israel Lai

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!

Jun 11, 202552 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mehefin 4, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. CLIP 1 Arbenigol: Specialist Serennu: To star Sefydlodd: Established Cynrychioli: To represent Camp: A sport CLIP 2 Llywydd: Presiding Officer Gweinidog Cefn Gwlad: Minister for Rural Affairs Cythryblus: Troublesome Difa moch daear: Culling badgers Oriel Gyhoeddus: Public Gallery Gwrthododd: Refused ...

Jun 04, 202530 min

Sgwrsio: Grace Jones

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r i...

May 14, 202538 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mai 7, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod CLIP 1 Cynyddu: To increase Sionc: Lively Drygionus: Naughty Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw Efeilliaid: Twins Yn gwmws: Exactly Cerrig milltir: Milestones CLIP 2 Penillion: Verses Gorchymyn: Command Bwrw mlaen : To get on with it Egni: Energy Ysgwyddo: To sho...

May 07, 202532 min

Sgwrsio: Ben McDonald

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

Apr 09, 202536 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ebrill 2, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. GEIRFA CLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu Tîm elusennol: Charity Team Ymateb: To respond Difaru: Regretting CLIP 2 Cyfarwydd: ...

Apr 02, 202531 min

Pont: Rob Lisle

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.

Mar 11, 202525 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mawrth 4ydd, 2025

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed: Blood pressure Dihuno ffordd arall o ddweud Deffro CLIP 2 Penn...

Mar 04, 202536 min

Pont: Alanna Pennar-Macfarlane

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar-Macfarlane. Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar-Macfarlane. Yn wreiddiol o dref Stirling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennar Bapur.

Feb 11, 202524 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Chwefror 4ydd, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubt Clip 2 Cynhesu, neu C’nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Ei...

Feb 04, 202533 min

Pont: Judi Davies

Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei ...

Jan 14, 202516 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- CLIP 1 Beiriniaid: Judges Ias: A shiver Chwerw-felys: Bitter sweet Diniwed: Innocent Cynhyrchwyr: Producers Clyweliadau: Auditions Hyfforddwyr: Coaches Ewch amdani: Go for it Sylwadau: Comments Y Bydysawd: The Universe Cyfarwyddwr: Director CLIP 2 Lleoliad: L...

Jan 07, 202532 min

Pont: Kierion Lloyd

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd. Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith....

Dec 10, 202417 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

Dec 05, 202432 min

Pont: Naomi Hughes

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysg...

Nov 12, 202419 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Tachwedd 5ed, 2024

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

Nov 05, 202435 min

Pont: Joseff Gnagbo

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo. Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflen...

Oct 11, 202420 min

Sgwrsio: Isabella Colby Browne

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

Oct 08, 202442 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Hydref 2ail, 2024

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths. Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o’n ei olygu: What does it mean Clip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyng...

Oct 02, 202432 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 10fed 2024

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths. Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuse Clip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Commun...

Sep 10, 202425 min

Sgwrsio: Aleighcia Scott

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

Sep 10, 202441 min

Sgwrsio: Kieran McAteer

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

Aug 13, 202446 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst y 6ed 2024

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths. Geirfa ar gyfer y bennod: Clip 1 Cneifio - Shearing Canolbwyntio - To concentrate Bawd - Thumb Cyfathrebu - To communicate Yr wyddor - The alphabet Yn rhyfeddol - Wonderful Clip 2 Cyn-bostfeistr - Former postmaster Mi gaeth ei garcharu ar gam - He was wrongly imprisoned Cyfrinachol - Secret E...

Aug 06, 202433 min

Sgwrsio: Jess Martin

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

Jul 09, 202448 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf yr 2il 2024.

Geirfa Ar Gyfer Y Bennod: Clip 1 Cynadleddau: Conferences Ar ein cyfyl ni: Near to us Cael ein rhyfeddu: Being amazed Ar y cyd: Jointly Gwthio: To push Gweld ei eisiau e: Missing him Diolchgar: Thankful Dyletswydd: Duty Gwerthfawr: Valuable Hunanhyder: Self-confidence Clip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive me Ar wahân: Seperately Trafferthion: Problems Antur: Adventure Bwriad: Intention Daearyddol: Geographical Clip 3 Mam-gu: Grandmother Y bwrdd: The table Cwyno: Complain Sylweddoli: T...

Jul 02, 202430 min

Sgwrsio: Joshua Morgan

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

Jun 11, 202452 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin y 4ydd 2024.

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths. Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - Music Clip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Ad...

Jun 04, 202427 min

Sgwrsio: Luciana Skidmore

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

May 14, 202437 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android