Gwleidydda - podcast cover

Gwleidydda

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol

Ar ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.

Jul 10, 202431 min

02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban

Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.

Jul 02, 202429 min

26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrch

Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones. Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.

Jun 26, 202432 min

19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei ...

Jun 19, 202437 min

12 Mehefin: Etholaethau'r Gogledd

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.

Jun 12, 202432 min

Llond Bol o Bledleisio

Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.

Mar 25, 202122 min

Brexit yn Berwi

Trafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.

Dec 18, 202025 min

Y Brechlyn Newydd

Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.

Dec 04, 202024 min

Nadolig Covid

Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.

Nov 27, 202021 min

Drama Downing Street

Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.

Nov 20, 202021 min

Beth nesa i America?

Gwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter

Nov 13, 202022 min

Y Ras i'r Tŷ Gwyn

Gwenllian Grigg sy’n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards

Nov 06, 202021 min

Hydref Dan Glo...

Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy’n trafod y cyfnod clo...

Oct 30, 202021 min

Yr Ail Glo

Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Oct 23, 202021 min

Y Ras i'r Tŷ Gwyn

Vaughan Roderick, Sion Rogers, Ann Griffith a Maxine Hughes sy’n trafod y ras i’r Tŷ Gwyn

Oct 07, 202024 min

Podlediad Cymru Fyw: Yr Ail Don?

Gyda rhagor o gyfyngiadau wedi eu cyhoeddi i geisio atal lledaeniaid y coronafeirws heddiw, ydyn ni ar fin gweld ail don? Alun Thomas a’i westeion sy’n pwyso a mesur.

Sep 25, 202024 min

Llond Bol o Brexit?

Kate Crocket yn trafod datblygiadau Brexit yng nghwmni Vaughan Roderick, Dr.Carol Bell a’r Athro Richard Wyn Jones.

Jun 17, 202022 min

Llond Bol o Bolitics

Ddiwrnod cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd Kate Crockett, Yr Athro Richard Wyn Jones, Dr. Edward Thomas Jones a Mared Gwyn sy’n rhoi’r byd gwleidyddol yn ei le.

Jan 30, 202022 min

Llond Bol o Bledleisio?

Dadansoddiad o’r wythnos gyntaf wedi’r etholiad cyffredinol - Araith y Frenhines a Mesur Cytundeb Ymadael Boris Johnson. Dylan Jones sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni’r Athro Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Dr Huw Lewis.

Dec 20, 201921 min

Llond Bol o Bleidleisio?

Gydag wythnos i fynd cyn yr etholiad, Kate Crockett sydd yn holi ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru am ddigwyddiadau'r wythnos yn yr ymgyrchu gwleidyddol.

Dec 05, 201919 min

Llond Bol o Bleidleisio?

Kate Crockett sy'n cadeirio trafodaeth etholiadol rhwng Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Nov 29, 201920 min

Llond Bol o Bleidleisio?

Y pleidiau gwleidyddol yn dechrau cyflwyno eu maniffestos. Gwenllian Grigg sy’n cadeirio rhan gyntaf y drafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

Nov 22, 201920 min

Llond Bol o Bleidleisio?

Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod yr wythnos a aeth heibio yn yr ymgyrch etholiadol gyda Dylan Jones yn y gadair.

Nov 15, 201917 min

Llond Bol o Bleidleisio?

Kate Crockett yn holi Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Nov 07, 201918 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android