Llond Bol o Brexit - Barod am etholiad?
Gwenllian Grigg, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy'n trafod.
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Gwenllian Grigg, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy'n trafod.
Oes 'na etholiad cyffredinol ar y gorwel cyn y Nadolig? Gwenllian Grigg sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.
Cytundeb rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd ar Brexit. Alun Thomas sy’n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick, Gareth Pennant a Theo Davies-Lewis.
Dylan Jones sy’n cadeirio trafodaeth ble mae Tweli Griffiths, Vaughan Roderick a Hedydd Philyp yn rhoi eu pen ar y bloc wrth ddarogan a fydd yna gytundeb rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd cyn calan gaeaf.
“Deunawfed cainc y Mabinogi” meddai Vaughan Roderick am gynnig diweddaraf Llywodraeth Prydain ar Brexit i’r Undeb Ewropeaidd. Gwenllian Grigg sy’n holi Vaughan, ynghyd â Mared Gwyn o Frwsel a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ym mhodlediad diweddaraf Llond Bol o Brexit.
Ar ddiwedd wythnos gythyrblus ARALL yn San Steffan, ein gohebydd gwleidyddol ni, James Williams, sy’n holi’r arbenigwr cyfreithiol, Keith Bush, yr academydd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Dr Huw Pritchard, a chyfarwyddwr cwmni ymchwil cymdeithasol, Ymchwil Ob3, Heledd Bebb, am oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ac ieithwedd Aelodau Seneddol.
Ar fore cythryblus arall yn San Steffan, Kate Crockett yn trafod y diweddara gyda gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Gareth Pennant, a’r sylwebyddion gwleidyddol Sebastian Giraud a Derfel Owen.
Betsan Powys, Richard Wyn Jones a Teleri Glyn Jones sy'n cadw cwmni i Gwenllian Grigg i edrych yn ôl ar wythnos wleidyddol gythryblus arall...
Kate Crockett, Guto Harri, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod wythnos ddramatig.
Steffan Messenger yn cadeirio trafodaeth ar ddigwyddiadau’r wythnos yn San Steffan ar Brexit gyda Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a Mared Gwyn
Kate Crockett, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy’n trafod wrth i Boris Johnson setlo yn Downing Street.
Dosbarth '99: Bethan Rhys sy’n hel atgofion gyda Dafydd Wigley, Alun Michael, Glyn Davies ac Eleanor Burnham am ddyddiau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trafod Wythnos arall o Brexit gyda James Williams, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn.
Ble nesaf i Brexit? James Williams (Gohebydd Brexit BBC Cymru), Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth), a Hedydd Phylip (Prifysgol Caerdydd) sy'n trafod.
Ble nesaf i Brexit? James Williams, Cemlyn Davies a Dafydd ap Iago sy'n trafod.
Podlediad arbennig: Ar ddiwedd wythnos hir o drafod a dadlau, ble nesaf i Brexit?