Gwleidydda - podcast cover

Gwleidydda

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Canrif o Blaid Cymru

Wedi ei recordio yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar gan mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru. Mae'r ddau yn trafod gweledigaeth y sylfaenwyr, a sut mae’r blaid wedi datblygu dros y degawdau. Roedd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa hefyd ynglŷn ag etholiad y Senedd flwyddyn nesa', a sut mae gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn newid yn sgîl dyfodiad Reform UK.

Aug 11, 202549 min

Y Prif Weinidog o dan bwysau

Flwyddyn ers i'r fenyw gyntaf ddod yn Brif Weinidog Cymru mae Vaughan yn holi Eluned Morgan am ei phrofiad o arwain y llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi'n dweud bod yn rhaid i'r blaid Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r etholwyr nid "nonsens gwleidyddol mewnol". Mae Yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi'r heriau sy'n ei hwynebu cyn Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' ac yn trafod dyfodol y blaid Lafur yng Nghymru. Dros y misoedd nesaf mi fydd Vaughan yn cyfweld arweinwyr a ffigyr...

Aug 06, 202526 min

Reform yn y Senedd a Phlaid Newydd Corbyn

Ar ôl i Reform sicrhau ei haelod cynta' yn y Senedd wrth i Laura Anne Jones adael y Ceidwadwyr, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd ei phenderfyniad. Ma' cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod plaid newydd y cyn-arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Jul 25, 202530 min

Adroddiad Diwedd Tymor

Gyda thymor y Senedd yn y Bae yn dod i ben mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod sut mae'r pleidiau wedi gwneud dros y misoedd dwetha'. Mae'n union flwyddyn ers i Vaughan Gething ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru - faint o gysgod mae ei gyfnod wrth y llyw yn parhau i gael ar wleidyddiaeth Cymru ac ar y blaid Lafur? A gydag adroddiadau bod Jeremy Corbyn yn ystyried creu plaid newydd - faint o effaith fyddai hynny'n ei gael ar etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?

Jul 16, 202529 min

Blwyddyn o boen i Starmer?

Mae'r Aelod o’r Senedd Llafur, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod blwyddyn o Lywodraeth Syr Keir Starmer mewn grym yn San Steffan. Ar ôl i 49 Aelod Seneddol Llafur bleidleisio yn erbyn mesur i ddiwygio'r system les - faint o hygrededd sydd gan y Prif Weinidog bellach? Mae Alun hefyd yn sôn wrth Vaughan am yr heriau sy'n wynebu'r blaid yng Nghymru a beth sydd angen digwydd er mwyn i Lafur lwyddo yn Etholiad y Senedd 2026.

Jul 02, 202528 min

Mwyafrif mawr lot fwy o broblem na mwyafrif bach?

Gyda dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi ymgais i atal cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri rhai budd-daliadau anabledd a salwch mae Vaughan a Richard yn trafod y rhwyg yn y blaid a'r her ma hwn yn achos i'r Prif Weinidog Keir Starmer. Mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r ddau i ddadansoddi'r tensiynau o fewn y blaid ac mae'r tri yn trafod sut ma' Llafur a Reform yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd blwyddyn nesa'.

Jun 25, 202522 min

Yn fyw o Tafwyl

Mewn pod wedi ei recordio'n fyw o ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae Vaughan a Richard yn trafod os yw Llywodraeth Cymru ar eu hennill wedi adolygiad gwariant y Canghellor, Rachel Reeves. Mae'r ddau hefyd yn trafod sut mae gwleidyddiaeth wedi newid yn ein dinasoedd. A chyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau i Vaughan a Richard.

Jun 16, 202537 min

Arian, Arian, Arian - ond faint i Gymru?

Gyda'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei hadolygiad gwariant i adrannau Llywodraeth y DU - faint o arian newydd sydd i Gymru? Mae gohebydd gwleidyddol y BBC Elliw Gwawr, cyn olygydd gwleidyddol y BBC Betsan Powys a'r cyn Aelod Seneddol, Jonathan Edwards yn dadansoddi'r cyfan gyda Vaughan. Ac a oes gormod o bŵer gan y pleidiau wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?

Jun 11, 202524 min

Ffrae o fewn Reform UK, sioc i Lafur, a siom i’r SNP

Ar ddiwedd wythnos gythryblus arall yn y byd gwleidyddol, Kate Crockett sy’n holi Llyr Powell o Reform UK yn dilyn ymddiswyddiad Zia Yusuf fel cadeirydd y blaid. Ac mae ‘na sioc wleidyddol draw yn yr Alban, wedi i Lafur gipio sedd gan yr SNP mewn isetholiad. Mae’r athro Richard Wyn Jones yn trafod beth all hynny ei olygu i obeithion Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Jun 06, 202514 min

Yr ifanc am bleidleisio?

Fel rhan o'u taith dros yr haf mae Vaughan a Richard wedi bod i Eisteddfod yr Urdd i ddadansoddi perthynas pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Mae dau aelod o'r Senedd Ieuenctid, Maisie a Ffion yn ymuno â'r ddau i drafod cyflwyno'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed a throsodd a'r pynciau sydd o bwys i'r to ifanc.

May 30, 202524 min

Brexit yn ôl ar y fwydlen?

Ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cytundeb newydd â'r Undeb Ewropeaidd - ydy'r bartneriaeth ag Ewrop yn ôl ar yr agenda gwleidyddol? Mae Vaughan a Richard yn trafod y polau piniwn diweddara' ac yn ymateb i'r arolwg barn Cymreig arwyddocaol gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl. A pham ymddiheurodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts?

May 21, 202520 min

Ffordd goch Gymreig?

Wythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r p...

May 07, 202534 min

Y Tir Canol

Yn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Apr 30, 202519 min

Y Tir Canol

Yn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Apr 30, 202519 min

Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru

A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.

Apr 16, 202530 min

Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru

A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.

Apr 16, 202530 min

Datganiad Gwanwyn y Canghellor

Ar ddiwrnod Datganiad Gwanwyn y Canghellor, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy'n trafod yr anniddigrwydd o fewn rhengoedd y Blaid Lafur a thymor cynadleddau Gwanwyn y pleidiau

Mar 26, 202521 min

Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau?

Ar ôl i'r Senedd gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru mae Elliw Gwawr yn ymuno â Richard a Vaughan i drafod y cyfan. Mae'r tri hefyd yn dadansoddi sut mae'r pleidiau yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 a'r tensiynau all godi ymhlith y pleidiau.

Mar 05, 202526 min

Diwygiad ar Droed?

Gyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?

Feb 19, 202527 min

Ail ddaergryn ar droed?

Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf? Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.

Jan 29, 202523 min

Llafur Caled

Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir...

Jan 15, 202526 min

Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol

Yn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru. Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.

Dec 18, 20241 hr 1 min

Ta Ta RT

Ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu. Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'. Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?

Dec 04, 202431 min

Pwy ydyn ni? A sut mae'n effeithio ar ein pleidlais?

Sut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.

Nov 27, 202422 min

Trump yn y Tŷ Gwyn ac effaith y gyllideb ar Gymru

Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.

Nov 06, 202428 min

Cyfraniad Alex Salmond a 100 diwrnod cyntaf Llafur

Ar ôl marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick.

Oct 15, 202428 min

Tymor Newydd yn Dechrau

Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.

Sep 18, 202431 min

O Faes yr Eisteddfod

Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.

Aug 07, 202435 min

Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru.

Jul 24, 202429 min

Ymddiswyddiad Vaughan Gething

Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.

Jul 17, 202425 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android