Clera - podcast cover

Clera

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Clera Gorffennaf 2020 - 'Y Gynghanedd Heddiw'

Pennod arbennig sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar gyfrol y mae Aneurig ar fin ei chyhoeddi, sef Y Gynghanedd Heddiw. Mwynhewch drafodaeth am y gyfrol a cherdd dafod yng nghwmni gwesteion arbennig, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Caryl Bryn a Rhys Iorwerth. Diolch i'r Eisteddfod AmGen am gael defnyddio'r sain o'n trafodaeth fel rhan o ddarpariaeth amgen yr Eisteddfod. Hefyd cawn gerdd yn yr Orffwysfa gan Aled Lewis Evans, sydd newydd gyhoeddi cyfrol am Wrecsam, sef Tre Terfyn (Gwasg Carreg G...

Jul 28, 202058 min

Mehefin 2020

Croeso i bennod mis Mehefin o Clera. Y mis hwn rydyn ni'n cael tair gorffwysgerdd gan feirdd buddugol Eisteddfod T yr Urdd, sef Osian Wyn owen, Cristyn Rhydderch Davies a Lois Campbell. Caryl Bryn yw'r Bardd yn y Bath, Llyr Gwyn lewis sy'n trafod ei bamffled newydd o gerddi ac mae Gruffudd a'i Ymennydd llawn Minnions yn cynnig pos difyr arall. Hyn oll a llawer mwy.

Jun 28, 20201 hr 25 min

Clera Mai 2020

'Dechreuad mwyn dyfiad Mai', a ganodd Dafydd ap Gwilym. Croeso i bennod mis Mai o bodlediad Clera. Cawn ddwy gerdd y tro hwn gan y Prifardd a'r Bardd Cenedolaethol, Ifor ap Glyn. Pos difyr gan Gruffudd Antur. Rhys Iorwerth yw'r Bardd yn y Bath ac fe gawn wrth gwrs yr eitemau arferol a llawer mwy!

May 28, 20201 hr 18 min

Clera Ebrill 2020

Croeso i'r ail bennod o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr. Mwynhewch, cadwch eich pellter, parchwch eraill yn y siopau a chefnogwch ein gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol a chadwch yn ddiogel.

Apr 30, 20201 hr 6 min

Clera Chwefror 2020

Croeso i bennod mis Chwefror o bodlediad Clera. Yn rhifyn y mis bach rydyn ni'n pwnco am feirniadu eisteddfodol, yn cael gorffwsgerdd arbennig gan goilad o feirdd sy'n canu am Frecsit ac yn clywed unwaith eto gan ein Posfeistr doeth a hollwybodus, Gruffudd Antur. Mwynhewch!

Feb 28, 20201 hr 1 min

Clera Ionawr 2020

Croeso i'r bennod gyntaf o Clera yn y ddegawd newydd! Yn y bennod hon, mae gennym yr orchwyl drom o gofio Dai Rees Davies a gollwyd cyn Nadolig. Bardd, cynganeddwr, diddanwr, cefnogwr y pethe. Yn ogystal, cawn rai o'r eitemau arferol, y Pwnco, y Pos, y Newyddion a llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Cawn hefyd gerdd gan Eurig ei hun o'i gyfrol llyfr Gwyrdd Ystwyth. Diolch i Tudur Dylan am y llun o Dai Rees Davies ar glawr y bennod hon.

Jan 21, 20201 hr 9 min

Clera Rhagfyr 2019

Croeso i bennod y gaeaf noethlwm a'r Nadolig. Fel arfer, mae llwyth o ddanteithion barddol yn eich disgwyl, o Orffwysgerdd newydd sbon gan Geraint Lovgreen i lu o leisiau amrywiol yn trafod cyfrolau a chyhoeddiadau newydd sy'n eich disgwyl yn y siopau. Hyn oll, a chymaint mwy, o Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r Pos gan gruffud Antur i eitem gsan Eurig o daith ddiweddar i India!

Dec 15, 20191 hr 17 min

Clera Tachwedd 2019

Croeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!

Nov 27, 20191 hr 13 min

Clera Hydref 2019

Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!

Oct 31, 201954 min

Clera Medi 2019

Rhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn oll a mwy!

Sep 28, 20191 hr 14 min

Clera Yn Fyw o'r Eisteddfod

Pennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr.

Aug 19, 201951 min

Clera Mehefin 2018

Sgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!

Jun 28, 20191 hr 14 min

Clera Mai 2019

Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am y ffenomen hynod Gymraeg a Chymreig o ddiffyg teilyngdod mewn eisteddfodau. Cawn orffwysgerdd gan Judith Musker-Turner. Awn i Lydaw i drafod cynganeddu yn

May 30, 20191 hr 16 min

Clera Ebrill 2019

Croeso i bennod mis Ebrill o Clera! Y tro hyn rydyn ni'n dathlu pen-blwydd arbennig y prifardd-archdderwydd Jim Parc Nest, yn parhau i drafod y Stomp gyda rhai o drefnwyr y nosweithi poblogaidd dros y blynyddoedd, Ceri Anwen James a Leusa Llewelyn, ry'n ni hefyd yn fyw yn lansiad cyfrol y Prifardd Idris Reynolds, yn cyfweld a chynganeddwr o Sheffield yn Llydaw sef Felix Parker Price, y pos a llawer mwy!

Apr 26, 20191 hr 13 min

Clera Mawrth 2019

Trafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch.

Mar 29, 20191 hr 12 min

Clera Chwefror 2019

Croeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!

Feb 23, 20191 hr 8 min

Clera Ionawr 2019

Blwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy.

Jan 29, 20191 hr 11 min

Clera Rhagfyr 2018

Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.

Dec 23, 20181 hr 10 min

Clera Tachwedd 2018

Ym mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!

Nov 28, 20181 hr 7 min

Clera Hydref 2018

Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!

Oct 31, 20181 hr 7 min

Medi 2018

Dyma bennod gyntaf Clera ers i Nei ffoi i Lydaw a gadael i Eurig wynebu Brexit ar ei ben ei hun...ond tybed a fydd Eurig yn gorfod podledu ar ei ben ei hun yn ogystal...? Uchafbwynt arall y bennod yw sgwrs ddifyr gyda'r Prifardd Catrin Dafydd. Mwynhewch!

Sep 20, 201853 min

Clera Awst 2018

Pennod fyw o’r Babell Lên gyda’n gwesteion arbennig, prifweithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, prifardd y Gadair Gruffudd Eifion Owen, y gomediwraig Beth Jones, ein posfeistr Gruffudd Antur a bardd yr orffwysfa y prifardd Rhys Iorwerth. Sgyrsiau, gemau a giamocs!

Aug 17, 201848 min

Clera Gorffennaf 2018

Ffarwel i Ffostrasol! Dros y misoedd diwethaf bu Aneurig yn cwrdd yn Nhafarn Ffostrasol er mwyn recordio Clera. Gyda Nei yn mynd i fyw yn Llydaw am flwyddyn o fis Awst ymlaen, dyma'r cyfarfyddiad olaf yn Ffostrasol am sbel. Dyma, felly, bennod arbennig o Clera yn Nhafarn FFostrasol, yng nghwmni rhai o feirdd Tim Talwrn Ffostrasol, heb anghofio'r pos, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy.

Jul 17, 20181 hr 5 min

Clera Mehefin 2018

Pennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy

Jun 18, 201851 min

Clera Mai 2018

Pennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a llawer mwy! Diolch i Betsan Haf Evans (cwmni Celf Calon) am y llun o Alan Llwyd sydd ar glawr y bennod...

May 25, 20181 hr 14 min

Clera Ebrill 2018

Pennod arbennig am ei bod yn cynnwys cyfraniad gan rai o leisiau ac enwau enwocaf y byd canu Cymraeg: Huw Chiswell, Rhys Meirion, Elin Fflur, Twm Morys, Gwyneth Glyn a Cleif Harpwood. Hefyd, mae cerdd yr orffwysfa yn un newydd sbon gan y Prifardd dwbwl Alan Llwyd. Hyn oll, y pos gan Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamwiniol y mis, y newyddion a mwy!

Apr 29, 201859 min

Clera Mawrth 2018

Ym mhennod gyntaf y gwanwyn mae Aneurig yn Pwnco am y ddadl rhwng beirdd sy'n darllen eu gwaith a beirdd sy'n perfformio eu gwaith o'r cof. Mae sgwrs gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru a Steffan Phillips o Lenyddiaeth Cymru, a cherdd yr Orffwysfa yn un arbennig iawn gan taw dyma gywydd croeso Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r fro 2019, gyda'r Prifardd Osian Rhys Jones. Hyn oll a llwyth o'r difyrrwch arferol hefyd.

Mar 11, 201854 min

Clera Chwefror 2018

Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am beth yw gwerth cerdd, yn sgil colofn ar y pwnc yn Barddas gan y prifardd Ceri Wyn Jones. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Gwyneth Lewis ac rydym hefyd yn adrodd hanes sioe farddol newydd Karen Owen, sef 7 Llais, heb son am lwyth o'r pethau difyr eraill sy'n arferol ar Clera. Diolch yn fawr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones am gael defnyddio ei lun o Karen Owen ar glawr y bennod hon.

Feb 17, 201858 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast