Croeso i bennod gynta'r flwyddyn o Clera o gynhesrwydd Tafarn Ffostrasol. Rydyn ni'n dechrau 2018 gydag armywiaeth o bethau barddol, difyr a geeky! Pwnco am y gynghanedd a sut i ateb aceniad estron rhai geiriau, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Cerdd Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs am ffurf yr Anterliwt a llawer mwy o'r eitemau arferol.
Jan 18, 2018•47 min
Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.
Dec 17, 2017•53 min
Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
Nov 24, 2017•59 min
Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!
Oct 01, 2017•54 min
Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw.
Sep 17, 2017•47 min
Pennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra.
Aug 16, 2017•46 min
Pennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!
Jul 25, 2017•43 min
Pennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!
Jun 26, 2017•47 min
Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!
May 15, 2017•1 hr 2 min
Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth o newyddion a mwy!
Apr 09, 2017•1 hr 12 min
Pennod Mis Mawrth 2017 o Clera. Pennod lawn dop y tro hwn, gyda sgwrs Pwnco yn dod o Dy Newydd, Llanystumdwy, Cerdd gan Nofelydd o fri, eitem newydd sbon, sgwrs gyda Golygyddion Y Stamp, adroddiad ar frwydr Slam Farddol fawr, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!
Mar 13, 2017•1 hr 11 min
Pennod y Mis Bach, 2017, o Clera. Digon o geekrwydd cynganeddol yn y bennod hon, gyda'r gwestai arbennig, Iwan Rhys, hefyd cerdd newydd gan Fardd Plant Cymru, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy.
Feb 12, 2017•58 min
Clera Ionawr 2017 by Clera
Jan 15, 2017•1 hr 4 min
Pennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.
Dec 16, 2016•53 min
1. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion
Nov 19, 2016•52 min
Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.
Oct 26, 2016•49 min