Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Siôn Tomos Owen

Beti George yn sgwrsio gyda'r artist, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen. Beti George's guest is the artist, author and presenter Siôn Tomos Owen.

Sep 19, 201947 min

Stifyn Parri

Beti George yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd Stifyn Parri. Beti George chats to Stifyn Parri.

Sep 08, 201947 min

Gwyn Pierce Owen

Beti George yn sgwrsio gyda'r dyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen mewn fersiwn fyrrach o raglen o 1997. Beti George chats to referee Gwyn Pierce Owen.

Sep 01, 201933 min

Orig Williams

Beti George yn sgwrsio gyda'r reslwr Orig Williams mewn fersiwn fyrrach o raglen o 2002. Beti George's guest is wrestler Orig Williams.

Aug 25, 201944 min

Rod Richards

Beti George yn holi Rod Richards am ei fywyd a'i yrfa, mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1993. Beti George's interview with Rod Richards in 1993.

Aug 22, 201935 min

Mair Penri

Beti George yn holi Mair Penri o'r Parc sy'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau'r eisteddfodau a nosweithiau llawen. Beti George interviews Mair Penri.

Aug 15, 201941 min

Dafydd Apolloni

Beti George yn sgwrsio gyda Dafydd Apolloni, un o gymeriadau tref Llanrwst. Mae'n hanner Cymro a hanner Eidalwr, gyda'i dad yn dod o Rufain a'i fam yn ferch i Idwal Jones, y dyn wnaeth greu SOS Galw Gari Tryfan! Yn fesitr ar ddysgu iaith, mae ef ei hun yn siarad Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg., a threuliodd gyfnodau yn byw yn Prague, Paris a'r Eidal. Yn y rhaglen, mae'n trafod pa mor ddosbarth canol ac elît yw'r Eisteddfod.

Jul 28, 201942 min

Betsan Moses

Beti George yn sgwrsio gyda Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal â thrafod y Brifwyl ei hun, gan gynnwys ei dyfodol a'r trafferthion cyn Eisteddfod Sir Conwy 2019, mae hi hefyd yn sôn wrth Beti am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, a'i chred anhygoel mewn ofergoelion.

Jul 21, 201948 min

Gwen Parrott

Cafodd Gwen Parrott ei magu yn Sir Benfro, cyn treulio deugain mlynedd yn byw ym Mryste. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n sôn am fagwraeth syml ym mhentref Bwlchygroes, a sut y dechreuodd hi sgwennu ar ôl cael gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n briod gyda meddyg teulu sy'n hannu o Tsieina.

Jul 14, 201948 min

Eirian Jones

Beti George yn sgwrsio gydag Eirian Jones, a dreuliodd dair blynedd ar ddeg yn dyfarnu yn Wimbledon. Yn wreiddiol o Flaenpennal, mae nawr yn olygydd llyfrau Saesneg gyda'r Lolfa, ac yn byw yn Llangeitho. Mae'n awdures, yn gyn-athrawes, ac yn flaenor yng Nghapel Gwynfil. Mae wedi parasiwtio, rhedeg marathonau, a dringo Everest.

Jul 11, 201948 min

Richard Lewis

Daw Richard Lewis o Borth Tywyn, ac wedyn Meinciau. Wedi gadael Ysgol y Strade, aeth i wneud gradd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Penderfynodd ei fod am ymuno â'r heddlu, a chafodd swydd fel cwnstabl yng Ngheredigion. Dringodd ysgol gyrfa yn gyflym iawn, a chael ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Ebrill 2019. Mae'n parhau i fyw yn Aberaeron, gan deithio yn ôl ac ymlaen bob penwythnos. Roedd yn chwaraewr rygbi adda...

Jul 04, 201949 min

Gwerfyl Roberts

Beti George yn sgwrsio gyda Gwerfyl Roberts. Yn enedigol o Lanbrynmair, ac wedi gweithio fel nyrs a darlithydd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor, mae wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i wella statws y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd.

Jun 27, 201945 min

16/06/2019

Beti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.

Jun 17, 201943 min

Arwyn 'Groe' Davies

Beti George yn sgwrsio gydag Arwyn 'Groe' Davies, y bardd a'r amaethwr o Ddyffryn Banw. Beti George interviews Arwyn 'Groe' Davies.

Jun 13, 201948 min

Elin Parisa Fouladi

Beti George yn sgwrsio gydag Elin Parisa Fouladi. Beti George chats to Elin Parisa Fouladi.

Jun 02, 201948 min

26/05/2019

Beti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.

May 26, 201948 min

Llinos Dafydd

Beti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd. Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol. Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau. Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, arweiniodd hynny at swydd gyda chylchgrawn Golwg wedi gadael yr ysgol. Mae'n cyfuno saw...

May 19, 201947 min

Dylan Huws

Beti George yn sgwrsio gyda Dylan Huws, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cwmni Da. Celf oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, a mae'n cofio'r bwrlwm a'r cyffro wrth astudio'r pwnc yn Lerpwl ddiwedd y 70au. Darlithiodd mewn celf am rai blynyddoedd, cyn cael cynnig swydd gyda chwmni teledu, a bwrw ei brentisiaeth ar y gyfres Hel Straeon. Yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, yn ddiweddar daeth y cwmni i fod yn un sydd ym mherchenogaeth ei weithwyr. Mae'n trafod pwysigrwydd gwrando ar eich greddf, rhedeg, Deian a Loli, a h...

May 14, 201953 min

Catrin Williams

Mae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu. Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf. Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd. Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun...

May 05, 201945 min

Llion Pughe

Un sy'n fodlon mentro, ac yn fodlon methu, yw'r dyn busnes Llion Pughe. Wedi ei fagu yng Nghwm Ystwyth ac ym Mro Ddyfi, mae'n credu bod sefydlu busnesau lleol yn ddull o gadw gwaith a grym yng nghefn gwlad Cymru. Astudiodd Gymraeg a Thwristiaeth cyn gweithio i Menter a Busnes, ac yna fel swyddog marchnata i Brifysgol Caerdydd. Roedd yn benderfynol o ddychwelyd i Fro Ddyfi, a mae wedi sefydlu sawl busnes er mwyn galluogi hynny. Mae'r gwaith yn anodd ar adegau, ac ambell syniad yn aflwyddiannus, o...

Apr 28, 201946 min

Ifana Savill

Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu. Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt. Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw. Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu. Caf...

Apr 14, 201948 min

Paul Flynn

Beti George yn holi'r Aelod Seneddol Paul Flynn yn 1995. Beti George's interview with Paul Flynn MP in 1995.

Apr 11, 201937 min

Siân Grigg

Yn ei harddegau, roedd Siân Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC. Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio. Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau. Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd â Leonardo DiCaprio, a Siân sy'n gwneud colur yr actor ar gyfer pob ffilm ers hynny. Mae'n sôn wrth Beti am ei dyslecsia, crefft bod...

Mar 31, 201946 min

Matt Ward

Ym Manceinion a Llanrug y cafodd Matt Ward ei fagu. Rhedeg oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, gan gynrychioli'r sir a Chymru, cyn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd anaf. Mae wedi gweithio i'r Llu Awyr, fel DJ, gwerthwr ceir, a rheolwr marchnata i gwmni nwyddau beics. Ar ôl ymgartrefu yng nghanolbarth Cymru, mae wedi dychwelyd at ei hoffter o redeg a'r awyr agored. Mae wedi sefydlu cwmni sy'n marchnata nwyddau chwaraeon, yn cynnig sylwebaeth ar ddigwyddiadau awyr agored, ac yn trefnu digwyddiadau...

Mar 24, 201950 min

Siân Tesni

Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd. Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith. Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth. Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes. Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn ...

Mar 17, 201951 min

Huw Thomas

Newid bywyd a thirlun y brifddinas oedd un o amcanion Huw Thomas pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Caerdydd yn 2017. Mae'n cydnabod bod hynny'n her, yn enwedig mewn cyfnod o lymder, ond yn benderfynol o fynd i'r afael ag anhafaledd. Wrth gael ei fagu yng Ngheredigion, yr oedd yn gerddor ac yn chwaraewr rygbi brwd. Astudiodd gerddoriaeth yn Rhydychen, gan ymdaflu i fywyd y Brifysgol. Er na chafodd fagwraeth wleidyddol, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a mewn sosialaeth yn enwedig....

Mar 10, 201949 min

Ciaran Jenkins

Beti George yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwr Ciaran Jenkins, sydd hefyd yn gerddor. Beti George chats with journalist and musician Ciaran Jenkins.

Mar 03, 201948 min

John Phillips

Treuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg. Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg. Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au. Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof plentyn o Abertawe'n cael ei bomio'n ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn yr ysgol ramadeg daeth dan ddylanwad Ei...

Feb 24, 201947 min

Jill-Hailey Harries

Pan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi. Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd. Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Mae'n sôn wrth Beti George am ei magwraeth yn Sir Benfro, ei mwynhad o'i gwai...

Feb 17, 201949 min

Carys Eleri

Beirniadaeth deg, Marilyn Manson a niwrowyddoniaeth yw rhai o'r pynciau trafod wrth i'r actores Carys Eleri gadw cwmni i Beti George. Wedi ei magu yn Y Tymbl, mae'n ystyried ei magwraeth yn un breintiedig, gan dderbyn pob cefnogaeth a chariad gan ei rhieni. Astudiodd Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, cyn cael gwaith fel un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru. Er ei bod yn bennaf adnabyddus fel actores, mae'n cymryd diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, gan ddatblygu sioe yn ...

Feb 08, 201948 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android