Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Valériane Leblond

Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond. Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau. Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru. Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn. Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.

Jan 27, 201946 min

Heulwen Haf

Beti George yn sgwrsio â Heulwen Haf yn 2008. Beti George in conversation with Heulwen Haf in 2008.

Jan 20, 201935 min

Rhys Mwyn

Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George. Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod. Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg. Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons. Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a ...

Jan 13, 201948 min

Dylan Griffith

Amsterdam yw cartref Dylan Griffith, ers iddo gael cynnig swydd gydag MTV yn y ddinas. Mae'n dychwelyd i Gymru yn aml, gan hiraethu am ei mynyddoedd. Teipograffeg, brandio a hyrwyddo yw ei gefndir, a fe oedd yn gyfrifol am ailfrandio S4C yn 2006. Treuliodd flwyddyn yn teithio'r byd gyda ffrindiau ar ôl graddio, gan greu cyfres o raglenni am y profiad. Mae wedi teithio'n helaeth ers hynny hefyd, gan fyw yn Awstralia am gyfnod, a chael ei daflu allan o Tibet. Mae bellach yn gydberchennog cwmni Smö...

Jan 06, 201949 min

Osian Williams

Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud. Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian. Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar ôl tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio a...

Dec 23, 201847 min

Sally Holland

Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015. O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd! Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oe...

Dec 16, 201849 min

Steffan Lewis

Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016. Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc. Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd gwleidyddiaeth hyd yn oed yn ddylanwad wrth ddewis pa dîm pêl-droed i'w gefnogi. Ddiwedd 2017, cafodd Steffan wybod fod ...

Dec 09, 201847 min

Arthur Thomas

Llyfrau, straeon, cerddoriaeth werin a rygbi yw rhai o hoff bethau Arthur Thomas. Er hynny, astudio gwyddoniaeth wnaeth e yn y coleg, gan droi at ddysgu'r pwnc ar ôl graddio. Wedi blynyddoedd o gael ei nabod fel mab y tenor Richie Thomas, mae'n hoffi dweud ei fod bellach yn cael ei nabod fel tad y delynores Elen Hydref. Treuliodd gyfnod ym ymgyrchu dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn aml yng nghwmni Gruff Miles o grŵp Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Roedd y ddau yn teithio gyda'i gilydd pan ga...

Dec 02, 201843 min

Karen Elli

Beti George yn sgwrsio gyda Karen Elli. Hi oedd Cilla yn Pobol y Cwm, ond mae plant Cymru'n ei hadnabod fel Heini. Mae hi hefyd yn hyfforddwr ffitrwydd, ac yn cynllunio tai.

Nov 25, 201849 min

Hedd Ladd-Lewis

Erbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia. Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd. Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion. Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o archeolegwyr am y tro cyntaf, ac ers hynny hanes ac archaeoleg sydd wedi mynd â'i fryd. Ar ôl cyfnod yn g...

Nov 18, 201847 min

Bethan Bryn

Dyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol. Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle. Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth dan ddylanwad Aled Lloyd Davies, er iddi ei gythruddo gyda'i gosodiad cyntaf ar gyfer Rhianedd Môn. Ca...

Nov 04, 201849 min

Neville Evans

Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach. Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr. Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar. Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr ...

Oct 28, 201849 min

Llinos Dryhurst-Roberts

Braf 'di cael bod yn hapus, yn ôl Llinos Dryhurst-Roberts. Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro. Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol. Wedi’r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon. Mae'n dweud ei bod yn fodlon ei byd, wedi cael gwireddu sawl breuddwyd, ac wedi dod i ...

Oct 21, 201847 min

Mike Parker

Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth. Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad...

Oct 14, 201848 min

Aled Rees

Methiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd. Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau. Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, ac arweiniodd hynny at gwrdd â'i wraig, Angeles, a hefyd at sefydlu cwmni Teithiau Tango. Mae gan Ale...

Oct 07, 201842 min

Sarah Reynolds

Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain. Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016. Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder. Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tasgau ar gyfer preswylwyr tŷ Big Brother, ond fel awdures sy'n magu ei theulu yng Nghymru y mae'n teim...

Sep 30, 201841 min

David John

Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith. Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni. Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America. Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgwái, wrth i leidr ei fygwth gyda dry...

Sep 23, 201849 min

Sian Lloyd

Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc. Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana. Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd. Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan ...

Sep 16, 201844 min

Elin Fflur

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd. Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu. Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r ...

Sep 09, 201845 min

Tuduriaid

Beti George yn sgwrsio â Sion, Ffion ac Owain Tudur o Gaerdydd. O gyfrinachau'r maes carafanau i helyntion ieuenctid Maes B, mae'r tri yn sgwrsio â Beti ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Jul 29, 201847 min

Hefin Jones

Beti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu. Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Jul 22, 201850 min

Meic Birtwistle

Beti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed. Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe. Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerddol am yr angen i amddiffyn hawliau'n y gweithle a hawliau ieithyddol.

Jul 15, 201848 min

Alaw Griffiths

Beti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.

Jul 08, 201856 min

Hefin Jones-Roberts

Beti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.

Jul 01, 201847 min

Siriol Burford

Beti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.

Jun 24, 201849 min

Deri Tomos

Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd. Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad. Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ys...

Jun 18, 201847 min

Eleri Twynog Davies

Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata. Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw. Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus. Pan oedd yn y ch...

Jun 12, 201846 min

Bleddyn Jones

Rygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones. Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd. Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar hugain.

May 27, 201843 min

David Williams

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales To...

May 25, 201850 min

Arfon Jones

Beti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd. Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc. Mae'n angerddol ynglŷn â chynorthwyo pobl i fynegi eu ffydd mewn dull sy'n berthnasol i'r ganrif hon. Fe sy'n gy...

May 20, 201848 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android