Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Gladys Pritchard

Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn. Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol. Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw. Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd,...

May 13, 201845 min

Siân Lewis

Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas. Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn p...

Apr 29, 201846 min

Meirion Davies

Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C. Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin. Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam. Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydo...

Apr 22, 201848 min

Lena Charles

Hel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon. Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo. Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn ni yn y rhaglen. Mae'n sôn wrth Beti am ei magwraeth ym Mlaengarw, gan gynnwys bywyd y cartref a dy...

Apr 15, 201847 min

Mari Williams

Beti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams. Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg. Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig. Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd, cyn symud i olygu cylchgronau bwyd. Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, a newydd gyhoeddi ei ...

Apr 08, 201844 min

Roger Williams

Dramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm fydd i'w gweld yn y sinema. Mae Roger yn byw gyda'i ŵr a'i f...

Mar 25, 201851 min

Mair Jones, Dinbych

Mair Jones o Ddinbych yw gwestai Beti'r wythnos hon. Mae'n un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Mary Dei sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr yr ardal. Mae'n credu yn angerddol bod angen gwell darpariaeth ddiwedd oes i'r henoed ac i'r sawl sydd â Dementia, yn enwedig ar ôl gofalu am ei rhieni. Mae hi hefyd yn gwybod pa mor ysgytwol yw colli aelod o'r teulu yn ddisymwth. Mae hi'n treulio ei amser heddiw yn rhannu ei phrofiadau yn y gobaith o fedru cynorthwyo eraill.

Mar 18, 201846 min

Roger Scully

Yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, yw gwestai Beti George. Cafodd ei eni a'i fagu yn Luton, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Thalaith Ohio. Ymunodd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn 2012, a chyn hynny Roger oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth jazz, yn aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mar 08, 201846 min

Tim Hartley

Un o gyfarwyddwyr elusen Gôl Cymru, sydd wedi ei enwebu am wobr Dewi Sant, yw gwestai Beti George. Mae Tim Hartley yn gyn-newyddiadurwr ac yn gyn-gyfarwyddwr materion corfforaethol S4C ac wrth ei fodd yn teithio'r byd i wylio pêl-droed.

Feb 25, 201850 min

John Rea

Aeth John Rea i Ysgol Gyfun Llanhari ac wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bu'n astudio cwrs cyfansoddi dan oruchwyliaeth yr Athro Alun Hoddinott. Gan weithio o'i stiwdio recordio yng Nghaerdydd, mae John yn mwynhau arbrofi gydag offeryniaeth draddodiadol a thechnoleg stiwdio fel ei gilydd. Mae wedi ennill dwy wobr BAFTA yn y categori 'Cerddoriaeth Wreiddiol Orau', ac wedi cydweithio gyda sawl artist o'r byd pop a roc, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Charlotte Church a John Cale.

Feb 18, 201851 min

Judith Owen

Daw Judith Owen o'r Bala'n wreiddiol, yn brifathrawes yn ers 20 mlynedd a mwy ar ôl cyfnod fel gwarchodwraig ac arweinydd Cylch Meithrin. Mae ganddi hi a'i gwr, Rhys, hefyd fusnes meithrinfa plant yn Llanwnda ers 14 mlynedd. Mae ganddynt ferch, Neli sydd yn 9 oed. Fe'i ganwyd ar ôl derbyn triniaeth IVF a gymysgodd had Rhys gydag ŵy gan chwaer Judith. Mae Judith a Rhys hefyd yn maethu plant.

Feb 11, 201850 min

Robert David

Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy. Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas. Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar ôl hir feddwl dyma benderfynu gad...

Feb 04, 201850 min

Manon Steffan Ros

Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, a...

Jan 28, 201845 min

Duncan Brown

Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar ôl 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuodd ddarllen gwaith Kate Roberts a T.H. Parry Williams a phenderfynu ei fod am ddychwelyd i Gymru i fy...

Jan 21, 201846 min

Iwan John

Yr actor Iwan John yw gwestai Beti George. Ganed Iwan yn Aberdâr ond fe symudodd y teulu i Abergwaun pan oedd yn dair oed. Yn un o dri o frodyr, fe gafodd ei addysg yn ysgol gynradd Abergwaun cyn symud unwaith eto, i Mynachlog-ddu y tro hwn. Mae Iwan yn adnabyddus am bortreadu cymeriadu doniol ac mae wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion am ei gyfraniadau i deledu plant Cymru, yn eu plith Bwgan, Twm Tisian, Eddie Butler a DJ Sâl. Ond yn ogystal â rhaglenni plant mae wedi bod yn rhan o sawl r...

Jan 14, 201848 min

07/01/2018

Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i...

Jan 07, 201848 min

Gwion Hallam

Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma. Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gweithio yng Nghaernarfon fel cynhyrchydd teledu ac wedi creu rhaglenni yn arsylwi'r berthynas rhwng pl...

Dec 17, 201749 min

Lowri Ann Richards

Magwyd Lowri ar fferm Glanllynau ger Chwilog. Aeth i'r ysgol yng Nghricieth ac yna i ysgol breswyl Howell's yn Ninbych cyn mynd i'r coleg yn Llundain. Ar ôl gadel y coleg bu'n aelod o'r grwpiau pop Visage a Pleasure & the Beast. Mi sefydlodd y grŵp Shock gyda Gary Numan ac mi berfformiodd yn Wembley hefyd, cyn cyrraedd y 10 uchaf yn y siartiau Prydeinig gyda'r grŵp Tight Fit. Bu Lowri mewn sawl parti cofiadwy lle'r oedd Spandau Ballet, Boy George, Richard Branson ac Elton John yno hefyd. Mae...

Dec 10, 201750 min

Helgard Krause

Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi. Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai ...

Dec 05, 201749 min

Ieuan Edwards

Cafodd Ieuan Edwards brentisiaeth gyda chigydd yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol, a sylweddolodd ei fod yn mwynhau delio â chig o safon, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid. Pan yn 20 oed, gwelodd hysbyseb mewn papur lleol bod siop ar werth yng Nghonwy. Fe'i prynodd, ac mae'n dal yno hyd heddiw, yn cyflogi nifer o bobl leol. Heblaw am y busnes a'r teulu, ceir yw ei gariad pennaf.

Dec 03, 201752 min

Rhydian Bowen Phillips

Cyflwynydd a chyn-aelod o'r band Mega yw gwestai Beti George yn y rhaglen hon. Cafodd Rhydian Bowen Phillips ei eni yn Aberdâr, ond symudodd y teulu i'r Rhondda, ac yno y bu ei dad yn weinidog. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llwyncelyn, ac roedd ymysg y cyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, sydd yn destun balchder iddo. Aeth i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, a gweld hysbyseb yn holi am aelodau ar gyfer band newydd sbon. Y canlyniad oedd ffurfio Mega. Mae Rhydian wedi gweithio ...

Nov 16, 201746 min

Eryl Besse

Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau. Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd. Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.

Nov 12, 201749 min

Sel Williams

Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog. Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud â datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar ôl ymddeol. Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nh...

Nov 05, 201750 min

Catharine Huws Nagashima

Beti George yn sgwrsio gyda Catharine Huws Nagashima. Wedi'i geni yn Llundain, symudodd y teulu i Sir Fôn pan oedd ond yn bum mis oed. Peiriannydd a oedd wedi astudio cerfluniaeth yn Fienna oedd ei thad, ac artist a bardd oedd ei mham. Does ryfedd, felly, i Catharine ei hun deithio'r byd. Ar ôl cael ysgoloriaeth gan Lywodraeth Ffrainc i astudio yno, aeth ar ei beic modur bob cam o Lundain i Wlad Groeg, ac yng Ngroeg y cyfarfodd â'i gŵr, Kochi. Symudodd y ddau i Japan, a mae'r teulu'n dal yno hyd...

Oct 29, 201748 min

David Sinclair

Beti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair. Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o waith mewn eglwys yn Glasgow, mae ef a'i wraig Mary yn paratoi i symud...

Oct 22, 201747 min

Andrew Tamplin

Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin. Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal. Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâ...

Oct 15, 201749 min

Elin Jones

Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones. Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg. Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth. Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru. Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfno...

Oct 08, 201750 min

Hywel Davies

Beti George yn holi Hywel Davies. Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd. Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon. Yn 2007, de...

Oct 01, 201751 min

Eleri Fôn Roberts

Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll. Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw. Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau canolbwyntio ar weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Wrth sgwrsio gyda Beti, mae'n ymddeol fel nyrs arbeni...

Sep 24, 201751 min

Ian Cottrell

Beti George yn holi Ian Cottrell. Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad. Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.

Sep 17, 201750 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android