Beti a'i Phobol - podcast cover

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Sian Northey

Beti George yn sgwrsio gyda Sian Northey. Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd. Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun. Gyda llyfrau i blant ac oedolion wedi'u cyhoeddi ganddi, mae wedi hen ennill ei phlwy f...

Sep 10, 201748 min

Wyn Bowen Harries

Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries. Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd. Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa. Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynal...

Sep 03, 201750 min

Albert Francis

Beti George yn holi Albert Francis, cyn-ofalwr ym Mharc yr Arfau a Gerddi Soffia. Beti George chats to Albert Francis, former groundsman at Cardiff Arms Park and Sophia Gardens.

Aug 27, 201735 min

John Grisdale

Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale. Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach. Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru. Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 197...

Aug 15, 201750 min

Tony Bianchi

Beti George yn sgwrsio gyda'r llenor Tony Bianchi, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Beti George interviews litterateur Tony Bianchi.

Aug 13, 201739 min

Irfon Williams

Beti George yn holi Irfon Williams o Fangor wrth iddo frwydro'n erbyn canser ac ymgyrchu er mwyn helpu eraill. Beti George interviews cancer patient and campaigner Irfon Williams.

Jul 30, 201741 min

Vivian Parry Williams

Beti George yn sgwrsio â Vivian Parry Willams. Yn enedigol o Benmachno, mae bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn awdur llyfrau fel Plwyf Penmachno ac Elis O'r Nant - Cynrychiolydd y Werin.

Jul 23, 201749 min

Meg Elis

Beti George yn sgwrsio â Meg Elis. Yn adnabyddus fel gwleidydd, cyfieithydd ac awdur, mae gan y ddwy ddigonedd i'w drafod. Beti George chats to Meg Elis.

Jul 17, 201748 min

Sara Powys

Beti George yn sgwrsio â Sara Powys. Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.

Jul 13, 201746 min

Dafydd Dafis

Beti George yn holi Dafydd Dafis mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1985. Wedi'r sgwrs, yn deyrnged i'r diweddar actor a cherddor, mae cyfle i glywed pedair o'r caneuon a gafodd eu recordio ganddo'n ystod ei yrfa.

Jun 25, 201734 min

Marian Wyn Jones

Beti George yn sgwrsio â Marian Wyn Jones, cyn-bennaeth y BBC yng ngogledd Cymru sy'n aelod o sawl corff cyhoeddus ac ymddiriedolaeth elusennol. Beti chats to Marian Wyn Jones.

Jun 18, 201750 min

Rhodri Morgan

Beti George yn holi Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru. Beti George interviews Rhodri Morgan, the former first minister of Wales.

Jun 11, 201741 min

Gwyneth Glyn

Beti George yn holi'r bardd a'r gantores Gwyneth Glyn. Beti George chats to poet and and singer Gwyneth Glyn,.

Jun 02, 201750 min

Helen Greenwood

Beti George yn sgwrsio â Helen Greenwood wrth iddi ymddeol o Urdd Gobaith Cymru wedi chwarter canrif o weithio i'r mudiad yn y de-ddwyrain.

May 28, 201750 min

Derith Rhisiart

Beti George yn holi'r seicotherapydd Derith Rhisiart. Beti George chats to psychotherapist Derith Rhisiart.

May 21, 201749 min

Gwilym Prys-Davies

Beti George yn sgwrsio â'r Arglwydd Prys-Davies, gwleidydd a chyfreithiwr a ymgyrchodd gydol ei oes dros ddatganoli. Fel aelod o'r Blaid Lafur y gwnaeth hynny'n bennaf, wedi iddo adael Plaid Cymru ar ôl methiant ymgais grŵp o bobl i ddylanwadu ar wleidyddiaeth y blaid honno. Yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon. Mae hon yn fersiwn fyrrach o sgwrs a gafodd ei darlledu'n wreiddiol mewn dwy ran yn 2007.

May 14, 201753 min

Bryn Fôn

Beti George yn holi Bryn Fôn, un o actorion a chantorion mwyaf poblogaidd Cymru. Beti George chats to Bryn Fôn, one of Wales's most popular actors and singers.

May 13, 201749 min

Rosa Hunt

Beti George yn holi'r Parchedig Rosa Hunt, gweinidog ym Mhentre'r Eglwys a gafodd ei geni a'i magu yn Malta. Mae'n trafod ei chefndir teuluol, ei dyddiau yng Nghaergrawnt a Ffrainc, a nawr Cymru.

Apr 06, 20172 min

Kevin 'Kev Bach' Williams

Beti George yn holi Kevin 'Kev Bach' Williams, DJ radio masnachol yng ngogledd Cymru. Beti George chats to Kevin 'Kev Bach' Williams, a commercial radio DJ in north Wales.

Mar 30, 201742 min

Dennis Davies

Beti George yn holi Dennis Davies, un o hoelion wyth ardal Llanrwst sy'n gyfaill yr eisteddfodau bychain a'r gwyliau cenedlaethol. Beti George chats to Dennis Davies from Llanrwst.

Mar 23, 201750 min

Richard Huws

Beti George yn sgwrsio â Richard Huws o fferm Pant Du ym Mhenygroes. Mae'r busnes llewyrchus hwn yn gwerthu gwin, seidr, sudd afal, a dŵr ffynnon.

Mar 13, 201744 min

Siân Gwenllian

Beti George yn holi'r gwleidydd Siân Gwenllian o Blaid Cymru. Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr, daeth yn swyddog cyfathrebu i Gyngor Gwynedd, cyn cael ei hethol i gynrychioli'r Felinheli ar y cyngor hwnnw. Newidiodd ei bywyd yn llwyr ym mis Mai 2016, pan gafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Arfon. Yn fam i bedwar o blant, mae'n parhau i fyw yn yr ardal ble cafodd ei magu.

Mar 07, 201749 min

Prydwen Elfed-Owens

Beti George yn sgwrsio â Prydwen Elfed-Owens. Beti George chats to Prydwen Elfed-Owens.

Feb 26, 201752 min

Emyr Glyn Williams

Mae Emyr Glyn Williams yn rhan annatod o ddiwylliant cerddorol Cymru. Yn un o sefydlwyr label recordio Ankst, fe weithiodd gyda rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y wlad fel Gorky's Zygotic Mynci, Catatonia a Super Furry Animals. Mae ei ddiddordeb mewn ffilmiau yr un mor heintus, ag yntau'n gyfarwyddwr ffilm ac awdur llyfr ar y pwnc. Mae bellach yn byw ar Ynys Môn, gan gyfuno bod yn gyfrifol am raglen sinema Pontio ym Mangor â'i waith gydag Ankst Music.

Feb 19, 201749 min

Bethan Rhys Roberts

Mae Bethan Rhys Roberts wedi teithio'r byd yn sgîl ei gwaith fel newyddiadurwraig, yn ogystal â gweithio yn San Steffan am gyfnod. Yn wreiddiol o Fangor, mae'n siarad pedair iaith, ac i'w gweld yn gyson yn cyflwyno Newyddion 9 ar S4C.

Feb 12, 201747 min

Mari Griffith

Cafodd Mari Griffith ei magu ym Maesteg, ond fe deithiodd y byd yn gweithio ar raglenni adloniant a cherddoriaeth. Dyna yw ei byd, ac roedd ei wyneb a'i llais yn gyfarwydd iawn i wylwyr Disc a Dawn. Ar ôl gyrfa faith, mae hi bellach wedi troi ei llaw at ysgrifennu.

Jan 29, 201749 min

Dewi Tudur

Dewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, yw gwestai Beti George. Fo oedd y cyntaf un i sefyll arholiad Lefel A celf drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n athro mewn sawl ysgol uwchradd, ond newidiodd ei fywyd yn sgîl gwyliau arbennig yn yr Eidal. Oherwydd hynny, mae bellach yn byw ger Fflorens gyda'i deulu.

Jan 22, 201749 min

Jeremy Turner

Mae Jeremy Turner, a gafodd ei eni'n Aberdâr, yn actor profiadol ac yn adnabyddus am sefydlu Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth. Aeth ati i sefydlu gŵyl theatr ryngwladol Agor Drysau, gan wahodd cwmnïau o Gymru ac o dramor i berfformio. Mae wedi teithio'r byd yn perfformio, ac yn hoff o gynyrchiadau sydd yn delio â materion cyfoes.

Jan 15, 201748 min

Mark Lewis Jones

Yr actor Mark Lewis Jones yw gwestai Beti George mewn rhaglen wedi'i recordio ychydig ar ôl iddo ennill categori'r actor gorau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2016 am ei bortread o Stanley yn Yr Ymadawiad. Wedi'i eni yn Rhosllannerchrugog, dechreuodd ei yrfa gyda Theatr Ieuenctid Clwyd cyn mynd ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae ei waith diweddar yn cynnwys Stella, Byw Celwydd a National Treasure.

Dec 21, 201645 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android