Y Podlediad Dysgu Cymraeg - podcast cover

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

BBC Radio Cymruwww.bbc.co.uk

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Pigion y Dysgwyr 16eg Hydref 2020

Aled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Mymryn - A little Crybwyll - To mention Cydio - To grasp Crynhoi’r cyfnod - To summarise the period Yn ddiamheuol - Without doubt Mewn un ystyr - In one respect Uchafbwynt - Highlight Cyfarwyddwr - Director Rhyddhau - To release Gwe...

Oct 16, 202019 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Fedi 2020

TRYSTAN AC EMMA – TX: 31.8.20 – CYFUNIADAU RHYFEDD O FWYDYDD Bwyd oedd yn cael sylw Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wythnos diwetha ac yn y clip yma cawn glywed am rai o’r cyfuniadau rhyfedd o fwydydd mae rhai pobol yn eu mwynhau… Cyfuniadau rhyfedd Strange combinations Sylw Attention Mae’n debyg Apparently Anarferol Unusual Fatha Fel (yr un fath â) GARI WYN – TX: 31.8.20 – SGWRS AM DECHNOLEG ARIAN Cwstad a grefi – ych a fi! Yn rhaglen gyntaf ei gyfres newydd sy’n rhoi sylw i bob math o fusn...

Sep 11, 202011 min

Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020

MALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi... Cyflwyno To present Amgylchiadau teuluol Family circumstances Gweithwyr allweddol Key workers Wedi (fy) nharo i Has struck me Ansicrwydd Uncertainty Y gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced you Holi T...

Aug 21, 202014 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020

Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi… Amgen Alternative Bardd Poet Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod Cerdd Poem Sbort Fun Adeg anghyffredin Unusual period Er nad oedd yr Eisteddfod yn ...

Aug 14, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 7fed 2020

Cofio Does dim llawer ohonon ni am fynd ar daith dramor eleni nac oes? Teithiau Tramor oedd pwnc Cofio wythnos diwetha a dyma glip o Emyr Wyn, Huw Ceredig, Dewi Pws, Ifan Gruffydd a John Pierce Jones yn chwarae’r rownd Beth yn y Byd ar y rhaglen Pwlffacan yn 2001. Bwriad y rownd oedd gweld pwy oedd y gorau am nabod ieithoedd tramor gan ddechrau gyda’r geiriau ‘estoy embarazada’ Hyddysg Learned Gwybodus Knowledgeable Bryn Terfel a Malcom Allen Ryn ni’n nabod Bryn Terfel fel un o leisiau enwoca Cy...

Aug 07, 202013 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 31ain 2020

Aled Hughes a hanes Sabrina Vergee Efallai eich bod wedi clywed am rai sy wedi dringo 14 copa ucha Eryri, sy’n ddipyn o gamp. Ond mae Sabrina Verjee o Cumbria wedi rhedeg ‘Y Wrainwrights’ yn Ardal y Llynnoedd - 214 copa, ie 214, a hynny mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud. Hi ydy’r ferch gynta i wneud hyn ac un sy’n ei hadnabod yn dda ydy Jane Harries, golygydd Cylchgrawn Adventure She, a chafodd Aled Hughes dipyn o hanes Sabrina ganddi ar ei raglen... Copa Summit Camp Achievement Edmygu To admire...

Jul 31, 202015 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 24ain 2020

Beti George ac Aled Roberts Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro... Mantais advantage Ar eich tyfiant growing up Swydd allweddol a key job Diogelu to protect Hwyrach maybe Pwysau pressure Profiad experience Ifan Evans a Sara Gibson Daeth y newyddiadurwraig Sara ...

Jul 24, 202015 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 17eg 2020

RHYS GWYNFOR Y canwr Rhys Gwynfor oedd yn cadw cwmni i Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn. Cawn glywed ychydig o hanes teulu Rhys i ddechrau cyn iddo fe rannu’r gyfrinach am sut i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru, fel gwnaeth e gyda’r band Jessop a’r Sgweiri.... Cyfrinach Secret Cystadleuaeth Competition Cynllun Plan Pentre genedigol Native village Del Pert Mwy neu lai More or less Namyn With the exception of Ar lwyfan On stage Twyllo To cheat HENO AUR AC ANGHARAD MAIR Mae cyfres newydd yn edryc...

Jul 17, 202016 min

Podlediad Pigion i Ddysgwyr 10fed o Orffennnaf

Al Lewis a Lerpwl Eleni enillodd clwb pêl-droed Lerpwl Uwchgynghrair Lloegr am y tro cynta erioed. Mae’r canwr Al Lewis yn ffan mawr o’r clwb a gofynnodd Dylan Jones iddo fe ar Ar y Marc sut oedd e’n teimlo ar ôl clywed y newyddion am lwyddiant Lerpwl… Dy deimladau Your feelings Uwchgynghrair Permier League Rhyddhad Relief Boddhad Satisfaction Gwaith ymchwil Research Cynghrair y Pencampwyr Champions League Moronen A carrot Addasu To modify Y Cigydd Rob Rattray Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn s...

Jul 10, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 3ydd o Orffennaf

Enw’r Clip: Love Island Enw’r rhaglen: Y Sioe Sadwrn …ydych chi un o ffans Love island? Doedd Shelley Rees un o gyflwynwyr Y Sioe Sadwrn ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y rhaglen ond cafodd hi a Rhydian Bowen Phillips gyfle ar y Sioe Sadwrn i holi un oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen – Connagh Howard o Gaerdydd… Cyflwynwyr Presenters Cyfle Opportunity Am y gorau For the best Wedi arafu Had slowed down Cwrdd â To meet Troslais Voiceover Bagiau ffa Bean bags Cymreictod Welshness Enw’r Clip...

Jul 03, 202015 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 26ain 2020

AL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf Emlyn Canwr cyfansoddwr Singer songwriter Wnaeth fy nenu i Attracted me Creu enw Made a name Cysyniadol Conceptual O flaen y gad Ahead of his time Diethr Unheard of Senglau Singles Yn cael eu clymu at ei gily...

Jun 26, 202015 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 19eg 2020

HEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman… Magwraeth Upbringing Hudolus Magical Plentyndod Childhood Cernyw Cornwall Bywiog Lively Swil Shy Denu To attract Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn) Yn benderfynol Determined IFAN EVANS A'R...

Jun 19, 202015 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 12fed 2020

LOWRI MORGAN A DANIEL GLYN Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic Ocean Llong danfor Submarine Yn gwmws Exactlly Ei cholli hi Losing it (mentally) Lleddfu To soothe Cwympo To fall Ymchwil Research Pa mor glou How quickly...

Jun 12, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 5ed 2020

YNYS YR HUNAN YNYSWYR Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru, mae Dylan Ebenezer yn cael dewis pwy sy’n cael aros ar yr ynys gyda fe ar ôl iddo fe glywed beth yw hoff lyfrau, caneuon a ffilmiau’r gwesteion. Dyma i chi’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell yn trio perswadio Dylan i adael iddo fe aros ar yr ynys drwy sôn am ei hoff lyfr... Hunan Ynyswyr’ Self Isolators Awgrymu To suggest Cyfres o ddarlithoedd A series of lectures Yn seiliedig ar based on Cyflawni breuddwydion Fulfilling dreams Ll...

Jun 05, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

Myrddin ap Dafydd ar Aled Hughes Dw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really lik...

May 28, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fai 2020

IFAN EVANS Prysor Lewis Mae Prysor Lewis yn dod o Aberaeron yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw ar fferm yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau mewn cymuned o’r enw Guthrie. Mae e’n gowboi go iawn fel clywon ni pan gafodd Ifan Evans sgwrs gyda fe am ei fywyd a’i waith, a chywed ychydig o hanes ei gariad newydd hefyd! Talaith State Yr Unol Daleithiau The United States Cymuned Community Sa i’n credu I don’t believe Ambell gymeriad The odd character Becso To worry Pen tost Head...

May 22, 202025 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 15fed o Fai 2020

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Geraint Lloyd – Mercher 06/05/20 Dwynwen Hedd …mae Dwynwen Hedd yn dod o Drefach ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n byw yn y Swisdir yng nghanol y mynyddoedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ar ei raglen nos Fercher, ac yn y darn yma mae hi’n esbonio wrth Geraint sut mae ei bywyd hi ...

May 15, 202021 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fai 2020

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti A’I Phobol – Sul a Iau – 26 a 30/04/20 Cai Wilshaw Gwestai Beti George oedd y sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw ac yn y clip yma mae e’n sôn am ei brofiad o weithio fel intern i Nancy Pelosi, sef menyw, neu ddynes, fwya pwerus Unol Daleithiau America Sylwebydd gwleidyddol Political correspondent Etholiadau Elections Cyswllt ...

May 07, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Ebrill

S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Recordiau Rhys Mwyn Llun 20/04/20 Heledd Watkins "Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..." ymdopi - to cope profiadau cerddorol - mu...

Apr 30, 202019 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Ebrill 2020

Aled Hughes Gwener 17/04/20 Breuddwydio "Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn" breuddwydion - dreams argyfwng - crisis hynod lachar - extremely vivid yr eglurhâd - the explanation trwmgws...

Apr 23, 202017 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Ebrill 2020

"…clip o Fy Stori i, a stori Glyn Jones sy'n dioddef o'r cyflwr MS oedd yn cael ei rhannu wythnos diwetha. Yn y clip yma mae e'n sôn am rai o'r trafferthion mae e'n wynebu wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus…. " Fy Stori i - Glyn Jones dioddef o'r cyflwr - suffering from the condition trafferthion - problems cadair olwyn - wheelchair trafnidiaeth gyhoeddus - public transport sicrhau - to ensure 'set ti'n synnu - you'd be surprised anghyfreithlon - illegal dwn i'm faint o weith...

Apr 16, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Ebrill 2020

Bore Cothi Mercher 01/04/20 Carys a Meryl "...Cafodd Shan Cothi sgwrs ddydd Mercher gyda Carys Eleri a'i mam Meryl o’u tŷ yn Y Tymbl ger Llanelli. Mae’r ddwy yn hunan-ynysu ond yn cadw eu hunain yn brysur hefyd gan fod yna Hot Tub newydd gyrraedd y tŷ. Maen nhw’n sôn yn y sgwrs am Nia Medi , merch Meryl a chwaer Carys Eleri ydy hi..." hunan ynysu - self isolating creadigol - creative synfyfyrio - to meditate i'r gwrthwyneb - to the contrary mor glou - so quickly ar garlam - at a pace cynnal - to...

Apr 09, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 02/04/2020

"Mae Bryn Terfel wedi gorfod canslo misoedd o gyngherddau ar ôl iddo fe gael damwain yn Bilbao. Dyma Bryn yn siarad gyda Shan Cothi ac yn sôn am sut digwyddodd y ddamwain ac am yr help mae e'n ei gael i wella." Bore Cothi - Bryn Terfel llithro ar bafin - to slip on a pavement gohirio - to postpone pigwrn - ankle ar y trywydd cywir - on the right track amser brawychus - frightening times fy nghalon i'n gwaedu - my heart bleeds heriol tu hwnt - extremely challenging cymeradwyaeth - applause bagl -...

Apr 02, 202016 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Fawrth 2020

"S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …" Galwad Cynnar Dydd Sadwrn 21/03/20 Y Foryd Fach "…Rhys Jones yn disgrifio'r Foryd Fach ger Caernarfon. Mae'r Foryd yn lle pwysig iawn o ran byd natur ac mae'n bosib gweld adar arbennig iawn yno. Dyma flas ar sgwrs Rhys Jones ar Galwad Cynnar bore Sadwrn diwetha... " amrywiaeth - variety nodweddiadol - typical gwyddau duon - blac...

Mar 25, 202017 min

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fawrth 2020

Hwyrnos Georgia Ruth - Ynys Blastig niwed </dt><dd> harm amgylchedd </dt><dd> environment creadigol </dt><dd> creative lleihau defnydd </dt><dd> reduce the use Cyfarwyddwraig </dt><dd> Director (female) darn o gelf </dt><dd> piece of art gorddefnydd </dt><dd> overuse atgoffa </dt><dd> to remind pi pi'n bob man </dt><dd> urinating everywhere hybu </dt><dd> to promote "Dyn wedi c...

Mar 20, 202015 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android