Oedd yr emosiwn yn ormod? Oedd tactegau Rhian Wilkinson yn anghywir? Oes rhaid derbyn bod Cymru lefel yn is na goreuon Ewrop? Dyna rai o'r cwestiynau i'w hateb wrth i gyn flaenwr Cymru Gwennan Harries ymuno gyda Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi'r golled o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025. Ond y cwestiwn pwysicaf oll - pam bod OTJ wedi dychryn am ei fywyd mewn sawna..?!
Jul 08, 2025•39 min
Mae Kath Morgan wedi cyrraedd Y Swistir - ac mae'r emosiynau'n hedfan. Bron i 20 mlynedd ers iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad, prin fod Kath yn gallu coelio bod Cymru yn cystadlu ymysg prif dimau Ewrop am y tro cyntaf. Fydd hyn yn gam rhy bell i'r merched? Fydd Sophie Ingle yn cychwyn y gêm gyntaf? Pa mor bwysig fydd profiad Rhian Wilkinson yn arwain y garfan? Mae 'na lot i drafod efo Dyl, Ows a Mal!
Jul 03, 2025•45 min
Rhyfedd sut mae colled gallu teimlo mor dda a buddugoliaeth mor siomedig. Bu bron i ni weld un o ganlyniadau gorau yn hanes Cymru yng Ngwlad Belg wrth frwydro nôl o dair gôl i lawr, ond gadael yn waglaw bu'n rhaid gwneud. Tridiau yng nghynt, digon fflat oedd yr ymateb ar ôl curo Liechtenstein o dair gôl i ddim. O ganlyniad, mae Cymru wedi disgyn i ail yn y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Pa wersi ddysgodd Craig Bellamy o'r ddwy gêm? Pa mor arwyddocaol fydd peidio cymryd pwyntiau od...
Jun 12, 2025•43 min
Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf. Pa wersi fydd Wilkinson wedi eu dysgu o'r ymgyrch? Sut all Cymru gynnig fwy o fygythiad ymosod...
Jun 05, 2025•49 min
Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed. Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr aw...
May 29, 2025•47 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen sy'n trafod y da, y drwg a'r digri o'r tymor a fu.
May 08, 2025•51 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n i chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe Joe Allen wrth iddo gyhoeddi fod ei yrfa hynod lwyddiannus ar fin dod i ben. Mae'r hogia' hefyd yn trafod y gwaith fydd gan reolwr Abertawe Alan Sheehan i ddenu chwaraewyr newydd i'r clwb dros yr haf, a'r dasg anoddach fyth sydd gan berchennog Caerdydd Vincent Tan i fabwysiadu strwythur gwell oddi car y cae er mwyn ceisio esgyn yn syth nol i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf.
May 02, 2025•53 min
Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogyst...
Apr 29, 2025•44 min
Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig. Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb. Ac a...
Apr 24, 2025•53 min
Dyl, Malcs ac OTJ sy'n trafod taith Owain i Como a buddsoddiad Luka Modric yn Abertawe.
Apr 17, 2025•45 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau a chanlyniadau merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson. Er gwaethaf dwy gêm gyfartal oddi cartref, mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth. Ydi'r cefnogwyr wedi colli gobaith yn barod? Mae'r momentwm tuag at ddyrchafiad yn parhau yn Wrecsam - mae eu dynged yn eu dwylo eu hun ar ôl i Wycombe ollwng rhag o bwyntiau. Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes...
Apr 10, 2025•48 min
Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn. Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal. Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro a...
Apr 03, 2025•55 min
Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud! Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia drafod, ac yn rhoi amser i Owain "ro’n i'n barod i gwffio" Tudur J...
Mar 27, 2025•53 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n 'dathlu' buddugoliaeth Newcastle United yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair ac yn ysu i weld Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Mar 19, 2025•50 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?
Mar 13, 2025•49 min
Mae Dylan Griffiths yn chwarae gêm beryglus. Nid yn unig ydi o'n penderfynu beirniadu Malcolm Allen am safon ei broffwydo, ond mae o hefyd yn mynd mor bell â dweud wrtho am ymddiheuro. Eithaf hawdd proffwydo pa fath o ymateb cafodd o i hyn... Mae Owain Tudur Jones yn ei chael hi hefyd, ac mae hwnnw yn ychwanegu cefnogwyr Aberystwyth arall i'w restr (hirfaith erbyn hyn) o bethau sy'n mynd "ar ei nyrfs". Tensiwn diwedd tymor bois bach, peidiwch â sôn!
Mar 06, 2025•53 min
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le. Mae Dyl, Ows a Malcs yn trafod canlyniad gwych Cymru ac adfywiad Caerdydd ac Abertawe.
Feb 27, 2025•28 min
Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr? Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn ...
Feb 20, 2025•47 min
Ydi byw yng Nghymru am bum mlynedd yn ddigon i fod yn gymwys i ennill cap cenedlaethol? Dyna'r brif drafodaeth ymysg Dyl, Ows a Mal yn dilyn ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau presennol er mwyn gallu cynnwys Matt Grimes yn y garfan. Mae'r tri hefyd yn trafod y cyhoeddiad ynglŷn â pha glybiau fydd yn ymuno gyda'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair genedlaethol yn ehangu i gynnwys 16 tîm yn nhymor 2026-27. Ac mae Dyl yn esbonio pam oedd o wedi gwylltio'n gacwn ddydd Sadwrn....
Feb 13, 2025•47 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu sefyllfa Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd ar ddiwedd ffenestr drosglwyddo mis Ionawr. Ac ar ôl dangos ei wir deimladau am 'yr Ayatollah' yn ddiweddar, mae 'na rywbeth arall bellach yn mynd "ar nyrfs" OTJ...
Feb 05, 2025•53 min
Capten yn gadael, rheolwr yn gwylltio'r cefnogwyr, un pwynt o pum gêm - mae hi wedi bod yn fis hunllefus i Abertawe. Ydyn nhw mewn peryg o ddisgyn o dan Caerdydd yn y tabl mwyaf sydyn? Ond er gwaethaf y siom o weld yr Elyrch yn colli'n drwm yn Norwich, mi gafodd Owain noson i'w chofio yn un o'r tafarndai lleol...
Jan 30, 2025•46 min
Mae buddugoliaeth fawr Caerdydd dros Abertawe wedi ennyn ymateb syfrdanol gan OTJ, wrth iddo droi ar un o ddathliadau enwocaf cefnogwyr Abertawe. Ac wrth gwrs, mae Malcolm Allen yn cymryd gryn bleser yn yr holl beth...
Jan 23, 2025•43 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at darbi de Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe, ac yn trafod sefyllfa niwlog Uwch Gynghrair Cymru sy'n oedi'r hollt ganol tymor.
Jan 16, 2025•50 min
Oes 'na gyfle a sioc yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gaerdydd ac Abertawe? Fe all yr Adar Gleision anghofio am y pwysau o geisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf wrth iddyn nhw deithio Sheffield United, ac mi fydd yr Elyrch yn edrych i fanteisio ar y blerwch sydd yn Southampton ar hyn o bryd. Mae rheolwr Arsenal Mikel Arteta yn ei chael hi am ei sylwadau am safon y bêl yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Newcastle - gêm mae'n debyg sydd wedi ysgogi tröedigaeth i Malcolm "Toon Army" ...
Jan 09, 2025•49 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu cyfnod prysur y Nadolig i glybiau Cymru (ac yn mynnu trafod Lerpwl).
Jan 03, 2025•47 min
Profi pawb yn anghywir - dyna'r her i dîm Rhian Wilkinson yn ôl Malcolm ac Owain ar ôl cael grŵp anodd tu hwynt yn rowndiau terfynol Ewro 2025, sy'n cynnwys Ffrainc, Iseldiroedd a Lloegr. Ond roedd lwc o blaid Craig Bellamy pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Mae'r hogia wedi cyffroi yn lan yn barod ac wedi mynd ati i wneud gwaith ymchwil manwl iawn ar y gwrthwynebwyr Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakstan a Liechtenstein. Roedd hi'n benwythnos eith...
Dec 19, 2024•50 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n canmol rhediad arbennig Wrecsam a chwarae graenus cyson Matt Grimes ond yn poeni am obeithion Caerdydd o godi fyny'r Bencampwriaeth. Ac mae Mal yn datgelu ffaith syfrdanol ei fod wedi chwarae pêl-droed yn y canol oesoedd...
Dec 11, 2024•51 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio tîm Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore. Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cy...
Dec 05, 2024•47 min
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cael cwmni Carrie Jones a Mared Griffiths o garfan Cymru cyn dwy gêm enfawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gemau ail-gyfle Ewro 2025. Cawn wybod pam fod Carrie wedi dewis symud i chwarae i Sweden a hithau dim ond yn 21 oed, tra bod Mared yn adrodd ei thaith o Drawsfynydd i Manchester United - a sut mai "gweithio fel ci" yn hel defaid ar y fferm deuluol oedd ei ymarfer ffitrwydd. Hefyd, fydd Caerdydd yn cynnig y swydd rheolwr i Steve Cooper? Nid am y tro c...
Nov 27, 2024•40 min
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu dyrchafiad Cymru i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd ac yn gwerthuso cyfraniad y rheolwr Craig Bellamy i'r ymgyrch.
Nov 21, 2024•40 min