Gofal iechyd Cymru’r dyfodol - podcast episode cover

Gofal iechyd Cymru’r dyfodol

May 14, 201929 min
--:--
--:--
Download Metacast podcast app
Listen to this episode in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episode description

Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.
Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon.
Mae Sion o’r farn bod yr un feddylfryd sydd ganddo ni wrth ddefnyddio ffôn i archebu tacsi yn “gallu helpu ni i baratoi gwasanaethau iechyd gwell yng Nghymru.”
Treuliodd Elin lawer o'i hamser fel nyrs bediatrig yn gofalu am blant â chlefydau prin. Ar ôl teimlo bod y dulliau o fonitro’r cleifion yn aneffeithiol, fe wnaeth Elin feddwl am y syniad o fonitro cleifion o bell mewn amser real ac fe sefydlodd gwmni ei hun i wireddu’r syniad hwn.
Ond nid technoleg yn unig all fod o help i gleifion Cymru. Meddai Elin, “ Y peth mwyaf innovative allwn ni wneud yw tynnu allan o’r sustem y practises sydd ddim yn gweithio bellach.”

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast
Gofal iechyd Cymru’r dyfodol | Syniadau Iach podcast - Listen or read transcript on Metacast