Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne'n dysgu'r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a'i waith er mwyn diwylliant Cymru, a'r pethau sy'n ei ysbrydoli.
Nov 07, 2024•59 min•Season 2Ep. 14
Gwestai'r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo'i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra'n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy'n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.
Oct 04, 2024•32 min•Season 2Ep. 13
Gwestai pennod cynta'r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda'i chyfrol Rhyngom . Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O'r Rhuddin , casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau , cyfrol am fagu'r Gymraeg dramor.
Sep 09, 2024•1 hr 7 min•Season 2Ep. 12
Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a'i phroses ysgrifennu.
Aug 08, 2024•27 min•Season 1Ep. 11
Mae Marged yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei nofel diweddaraf, y pethau sy’n ei hysbrydoli, sut mae’n ymdopi efo cyfnodau pan nad yw’r geiriau’n llifo, a’i chyngor gwerthfawr i awduron newydd.
Jun 13, 2024•51 min•Season 1Ep. 10
Mae Marged yn sgwrsio gyda'r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.
May 10, 2024•34 min
Mae Marged yn sgwrsio gyda Adam Pearce am ei gwmni cyhoeddi, Llyfrau Melin Bapur. Ceir trafodaeth am gyhoeddi'n annibynnol, heriau sefydlu busnes newydd, a ymroddiad y cwmni i gyhoeddi llenyddiaeth Cymraeg o'r 19eg ganrif, a fyddai fel arall ar goll.
Apr 15, 2024•46 min•Season 1Ep. 8
Mae Marged yn sgwrsio gyda Joanna Davies, awdur y gyfres Bwci-Bo, am ei gyrfa, y broses o ysgrifennu llyfrau stori a llun, y profiad golygyddol, a'r her o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mar 15, 2024•38 min•Season 1Ep. 7
Gwestai'r bennod hon yw Meleri Wyn James, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 efo'i nofel diweddaraf, Hallt. Mae Marged a Meleri'n trafod llwyddiant, sut i ymdopi efo methiant, sut mae Meleri'n magu syniadau a mynd ati i ysgrifennu, a'i gwaith fel golygydd creadigol. Y llyfrau a awgrymir gan Meleri yw Yr Apel/The Appeal gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers, a Yellowface gan R.F. Kuang.
Feb 12, 2024•44 min
Gwestai'r bennod yma yw'r sgriptiwr a'r awdur Elidir Jones, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 Categori Plant a Phobl Ifanc efo'i nofel ffantasi Yr Horwth . Ceir trafodaeth am greu bydoedd ffantasi, ymchwilio chwedlau gwerin er mwyn ysgrifennu straeon arswyd, sut mae ysgrifennu sgriptiau yn cymharu a 'sgwennu nofelau, a llawer mwy yn y bennod hon!
Jan 12, 2024•40 min
Blas byr o Sgribls - y bodlediad i unrhyw un sydd a diddordeb mewn ysgrifennu, llyfrau a diwydiant cyhoeddi Cymru. An introduction to Sgribls - the podcast for anyone with an interest in writing, books and the publishing industry in Wales.
Jan 09, 2024•47 sec
Yn y bennod hwn mae Marged yn sgwrsio efo Rachel Lloyd, Pennaeth Cyhoeddi a Golygydd Creadigol yn Atebol. Mae'r bennod yma yn llawn gwybodaeth am y diwydiant cyhoeddi a'r broses golygu, a mae Rachel yn rhannu cyngor gwerthfawr i bawb sydd a diddordeb mewn gyrfa yn y maes cyhoeddi, ac i awduron sy'n cysidro cyflwyno eu llawysgrifau i gyhoeddwyr. Y llyfr a awgrymir gan Rachel yn y bennod yma yw The Hare-Shaped Hole gan John Dougherty.
Dec 11, 2023•43 min•Season 1Ep. 4
Mae Marged yn sgwrsio efo'r awdur Nicola Edwards am ei nofel cyntaf, This Thing of Darkness, a thrafod ymchwilio'r nofel, y broses ysgrifennu, yr her o 'sgwennu stori gwreiddiol o fewn cyfyngiadau llenyddol, a'i phrosiect cyffrous nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Nicola yn y bennod hon yw Demon Copperhead gan Barbara Kingsolver.
Nov 15, 2023•42 min•Season 1Ep. 3
Mae Marged yn sgwrsio efo Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 2023 am ei llyfr cyntaf, Sgen i'm Syniad: Snogs, Secs, Sens a thrafod y rhesymau pam mae Gwenllian yn 'sgwennu, yr ymateb i'w llyfr, gwthio ffiniau cymdeithasol drwy ysgrifennu a be' sy'n dod nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Gwenllian yn y bennod hon yw Tomorrow, and Tomorrow, and Tomorrow gan Gabrielle Zevin.
Oct 13, 2023•39 min•Season 1Ep. 2
Mae Marged yn sgwrsio gyda Rebecca Roberts, enillydd gwobr Tir-Na-Nog 2021 a Llyfr y Flwyddyn 2021 categori Plant a Phobl Ifanc, am 'sgwennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ei siwrne at gyhoeddiad a jyglo teulu a gyrfa.Y llyfrau a awgrymir gan Rebecca yn y bennod hon yw:The Short Knife gan Elen CaldecottRepublic gan Nerys WilliamsSugar and Slate gan Charlotte WilliamsPaid a Bod Ofn gan Non ParryGirl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo
Sep 21, 2023•44 min•Season 1Ep. 1