Colli'r Plot - podcast cover

Colli'r Plot

Y Pod Cyflinktr.ee
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.

Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.

Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Awduron di-dâl

Mae Siân mewn penbleth ac mae'n gofyn am gymorth gan y pedwar... sydd yn fawr o help! Pryd mae'n iawn i ofyn am daliad a pham fod gymaint o ddigwyddiadau yn disgwyl i awduron cynnal noson yn ddi-dâl? Iaith ddiniwed Bethan, ymwelydd o ben draw'r byd, a llwyth o lyfrau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Do Not Call The Tortoise - Gareth Howell-Jones With The End In Mind - Kathryn Manix Llinyn Trons - Bethan Gwanas Wythnos Ryfedd Gwilym Puw - Neil Rosser Dan y Dŵr - John Alw...

Jun 12, 20251 hr 16 min

Dim byd, ond llyfrau

Dim thema, dim trafodaeth ddwys, dim byd, ond llyfrau. Ie, mae'r bennod hon llawn llyfrau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis Yn Ôl i Leifior - Islwyn Ffowc Elis The Conspiracy Tourist - Dom Joly The Twat Files - Dawn French Lula Dean's Little Library of Banned Books - Kirsten Miller The Burning Chambers - Kate Mosse Un nos Lun - Dafydd Parri Dau - Bethan Nantcyll Pwyso ar y giât - Aled Lloyd ...

May 02, 20251 hr 10 min

Sesiwn Holi ac Ateb Llanrwst

Dyma bennod arbennig o Colli’r Plot a recordiwyd yn Llanrwst. Noson wych a threfnwyd gan Bys a Bawd Pawb - menter gymunedol i achub Siop Lyfrau Cymraeg yn Llanrwst. I wneud y rhifyn yma bach yn wahanol na’r arfer da ni wedi rhyddhau y sesiwn cwestiwn ac ateb gan y gynulleidfa, o’dd mor ddiddorol. Mwynhewch!

Apr 11, 202530 min

Llyfrau Gwaharddedig

Llyfrau Gwaharddedig... neu lyfrau sydd wedi cael eu banio! Pam wahardd llyfrau a pha wledydd sydd yn wahardd y mwyaf? Fel arfer yr ydyn yn trafod pob dim dan haul ac yn mynd lawr ambell i lwybr. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Hunangofiant Dyn Positif - Bywyd a Gwaith, Wayne Howard Diwedd y Gân - Rebecca Roberts Nightshade Mother - Gwyneth Lewis Cry of the Kalahari - Mark a Delia Owens Ten Ponies and Jackie - Judith M Berrisford Tackle! - Jilly Cooper Trespasses - Loui...

Mar 28, 20251 hr 13 min

Y Bennod Hyfryd

Colli hyder wrth sgwennu neu ddiffyg hyder wrth sgwennu yw thema’r podlediad. Fel arfer mi ydyn ni’n mynd lawr llwybrau arall ac yn trafod pob dim dan haul. Rhybudd: Mae’r bennod hon llawn hyfrydwch! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod: Nelan a Bo - Angharad Price V a Fo - Gwenno Gwilym Casglu Llwch - Georgia Ruth Remarkable Creatures Tracy Chevalier Tir Dial - Dyfed Edwards Gwennol - Sonia Edwards O’r Tywyllwch - Mair Wynn Hughes Fi a Mr Huws - Mared Lewis Tomorrow a...

Feb 20, 20251 hr 7 min

Pwy sy'n gwrando?

Pennod gyntaf 2025 o'ch hoff bodlediad llyfrau, mae'n bennod gyntaf Colli'r Plot hefyd ac yr ydym yn barod i drafod llwyth o lyfrau a phob dim arall dan haul. Mae'n dod i'r amlwg pwy sy'n gwrando ar bwy ar bodlediad Colli'r Plot. Diffyg hyder neu golli hyder wrth sgwennu yw pwnc y bennod yma, ond unwaith eto da ni'n rhedeg allan o amser. Wnewn ni trafod y tro nesaf. Mae'r rhegfeydd gan Bethan a Manon wedi'u olygu allan o'r bennod hon, am ffi o £100 gallwn ryddhau'r sain! Dyma restr ddarllen o'r ...

Jan 23, 20251 hr 10 min

Y Sioe Frenhinol

Y Sioe Frenhinol a llyfrau'r flwyddyn. Hanes Bethan yn beicio yn Ne Affrica a chawn glywed am HRH Manon yn dal i fyny a'i ffrindiau newydd Cam a Brigitte Macron. Mae'r 5 ohonnom yn datgelu'n hoff lyfrau o 2024. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: O Ddawns i Ddawns - Gareth F. Williams Orbital - Samantha Harvey Yellowface - Rebecca Kuang Life and Times of Michael K - JM Coetzee Merch y Wendon Hallt - Non Mererid Jones Amser Nadolig gol. Lowri Cooke The Last Passenger - Will ...

Dec 13, 20241 hr 6 min

Argyfwng Y Byd Llyfrau

Croeso i bennod arall o Colli'r Plot. Yn y rhifyn yma da ni'n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a'r gyrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel. Mae 'na lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Lwmp - Rhian Wyn Griffiths Meirw Byw - Rolant Tomos Laura Jones - Kate Roberts Lladron y Dyfnfor - Gruffudd Roberts Gwadd...

Nov 21, 20241 hr 8 min

Yr amser gorau i ddarllen llyfr

Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy'n cynnwys stripper. Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Y Daith ydi Adra - John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey) Tell Me Who I Am - Georgia Ruth Dog Days - Ericka Walker Y Mo...

Oct 16, 20241 hr 3 min

Dominatrix

Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod meddiannu diwylliannol (cultural appropriation), a ble mae'r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli'r Plot? Ymddiheuriadau Heledd Cynwal! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Glutton - A.K Blakemore Ysgrifau Llenorion - gol. John Lasarus Williams The Story Spinner - Barbara Erskine Hi-Hon - gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Nice Racism - Robin Diangelo Tadwlad - Ioan Kidd Sunset - Jessie Cave The Satanic Mechanic – Sally Andrew ...

Sep 17, 202455 min

Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Rhifyn arbennig o Colli'r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024. Trafod hanes ein 'Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Doppelganger - Naomi Klein Hi/Hon - gol Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis Cân y Croesi - Jo Heyde How to ADHD - Jessica McCabe The Lost Bookshop - Evie Woods Y Fawr a'r Fach 2, Straeon O'r Rhondda - Siôn Tomos Owen 100 Records - ...

Aug 10, 202447 min

Doctor Pwy?

Y podlediad meddygol Cymraeg wrth i ni ddarganfod bod yna tri doctor bellach ar y podlediad. Llongyfarchiadau i'r doctor newydd, Manon. Mae darllen llyfrau yn dda i'ch iechyd. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn Recipes for love and murder - Sally Andrews Madws - Sioned Wyn Roberts It Comes To Us All/Fe Ddaw Atom Ni Oll - Irram Irshad Camu - Iola Ynyr Y Bocs Erstalwm - Mair Wynn Hughes Ultra-Processed People - Chris van Tulleken Jac a'r Ange...

Jul 25, 20241 hr 5 min

Y Goeden

Mae criw Colli'r Plot wedi colli'r plot! Trafod bob dim dan haul yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Y Gelli, a llyfrau (ond dim gymaint ag arfer). Dafydd yn datgelu ei hoffter am gofleidio coed ac yn ddatgelu noddwr newydd Colli'r Plot. Rhowch gwtsh i goeden. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Trigo - Aled Emyr Homegoing - Yaa Gyasi The Wall – Marlen Haushofer (cyfieithiad Shaun Whiteside) Tir y Dyneddon - E. Tegla Davies Yellowface - Rebecca F. Kuang Arwana Swtan a’r Sgo...

Jun 20, 202457 min

Blydi Selebs / Diolch Selebs

Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot wrth i'r 5 ohonom ymateb i erthygl yn yr Elysian yn sôn am wariant y 5 cwmni cyhoeddi mawr Saesneg. Y consensws, Ni’n lwcus ein bod ni’n Gymry Gymraeg yn sgwennu yn Gymraeg. Darllenwch yr erthygl yma https://www.elysian.press/p/no-one-buys-books

Jun 03, 202424 min

Y Sioe Ffasiwn

Dyma bodlediad newydd sy'n drafod ffasiwn gan griw Colli'r Plot. Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl Crime Cymru, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Y Brenin, y Bachgen a'r Afon - Mili Williams Eigra - Eigra Lewis Roberts We need new names - NoViolet Bulawayo Fools and Horses - Bernard Cornwell Pen-blwydd Hapus? - Ffion Emlyn Blas y môr - John Penri Dav...

May 09, 202459 min

What The Blazes!

Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio "rhegfeydd" Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Gwibdaith Elliw - Ian Richards. Anfadwaith - Llŷr Titus The One Hundred years of Lenni and Margot - Marianne Cronin An elderly lady is ...

Apr 10, 20241 hr 10 min

Pwysigrwydd Golygyddion Creadigol

Bethan Gwanas sy'n darganfod mwy am swydd yr olygydd creadigol, ffrind gorau unrhyw awdur, am gyfnod o leiaf. Heb olygyddion creadigol buasai llyfrau awduron ddim hanner cystal. Un o'r goreuon yw Nia Roberts sy'n gweithio i Gwasg Carreg Gwalch. Dyma rifyn arbennig o Colli'r Plot. Mwynhewch y sgwrs.

Mar 26, 202455 min

Y Rhifyn Di-drefn

Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Aled Jones a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Safana - Jerry Hunter Mymryn Rhyddid - Gruffudd Owen Drift - Caryl Lewis The Soul of a Woman - Isabel Allende Gut - Giulia Enders O Ddawns i Ddawns - Gareth F. Williams Dying of politeness - Geena Davies ...

Feb 28, 202458 min

Cyngor i awduron newydd

Dyma rifyn newydd ar gyfer y flwyddyn newydd. Mae Merched Meirionnydd yn cael cinio cudd ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan wrandäwr sydd yn gofyn am gyngor i awduron newydd. Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Trothwy - Iwan Rhys Pryfed Undydd - Andrew Teilo Y Cylch - Gareth Evans Jones Wild - Cheryl Strayed Pony - R J Palacio Pollyanna - Eleanor H. Porter Helfa - Llwyd Owen Gwibdaith Elliw - Ian Richards Sale...

Jan 30, 20241 hr 4 min

Sgwrs Llwyd Owen

Llwyd Owen yw'r gwestai diweddaraf ar Colli'r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa. Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw'r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn? Sgwrs difyr a hwyliog. RHYBUDD: IAITH GREF!

Jan 23, 202447 min

Llyfrau'r Flwyddyn

Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn. Sut mae cyfieithu i BT yn ennill 'kudos' a fel y disgwyl mae'r podlediad llawn hwyl yr wyl. Llyfrau 2023: Siân Llyfr Y Flwyddyn - Mari Emlyn Prophet Song - Paul Lynch Aled Y Bwthyn - Caryl Lewis And Away - Bob Mortimer Bethan Sut i Ddofi Coryn - Mari George Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Dafydd Sut i Ddofi Coryn - Mari George A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe Manon Llyfr Y Flwyddyn - M...

Dec 20, 20231 hr

Beth yw pwrpas lansiad llyfr?

Mae 'na wledd o lyfrau yn Colli'r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas lansiad llyfr? Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Warehouse - Rob Hart Dros fy mhen a 'nglustia - Marlyn Samuel The Year of Yes - Shonda Rhimes The Darkness - Ragnar Jónasson The Mist - Ragnar Jónasson Tom's Midnight Garden - Philippa Pearce Gwreiddio - straeon by...

Nov 30, 20231 hr 2 min

Sgwrs Fflur Dafydd

Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd. Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin. Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a 'tips' ar gyfer sgwennwyr newydd.

Nov 14, 202332 min

Hunan ofal wrth sgwennu

Mae Manon wedi dychwelyd a dan ni'n mynd ar daith darllen o Rufain i Albania. Hunan ofal wrth sgwennu yw'r thema wrth i ni drafod sut yr ydyn yn edrych ar ôl ein gilydd trwy gyfnodau anodd. Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The General of the Dead Army - Ismail Kadare Y Fawr a’r fach - Siôn Tomos Owen Pwy yw Moses John - Alun Davies Menopositif - amrywiol gyfranwyr Rhifyn cyntaf y cylchgrawn Hanes ...

Oct 26, 20231 hr 3 min

Cyfreithwyr a Chyfrolau'r Eisteddfod

Be' da ni'n meddwl o gyfrolau'r Eisteddfod, Hallt gan Meleri Wyn James a Gwynt Y Dwyrain gan Alun Ffred? Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Hallt – Meleri Wyn James Gwynt y Dwyrain – Alun Ffred Prophet Song – Paul Lynch Tender – Penny Wincer Menopause, the anthology – gol. Cherry Potts a Catherine Pestano Ro’n i’n arfer bod yn rhywun - Marged Esli Llygad Dieithryn - Simon Chandler Y Nendyrau - Seran...

Sep 26, 202355 min

Yn Fyw o'r Babell Lên

Rhifyn arbennig o Colli'r Plot wedi recordio o flaen gynulleidfa yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Rhybudd: Iaith Gref Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Lost Boy - Camilla Lackberg The Spider - Lars Kepler Gwynt y Dwyrain - Alun Ffred My Cat Yugoslavia - Pajtim Statovci, cyfieithwyd gan David Hackston Ddoi Di Dei, Llên Gwerin Blodau a Llwynau - Mair Williams Poems from the Edge of Extinction _ gol. Chris McCabe The Go-Between – Osman Yousefzada YNa...

Aug 13, 202353 min

Deryn Brown a'r fedal Carnegie

Gwobr arall i ychwanegu at gabinet tlysau Manon, canmoliaeth ar gyfer Llyfr Y Flwyddyn, pwy yw'r awdur Deryn Brown? Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Blue Book Of Nebo - Manon Steffan Ros Lessons in Chemistry - Bonnie Garmus Y Clerwr ...

Jul 19, 20231 hr 4 min

Be ydy compulsive yn Gymraeg?

Gwestai arbennig wrth i fam Bethan ymddangos ar y podlediad. Beth ydy compulsive yn Gymraeg? Byddwch yn ofalus wrth wrando ar e-lyfrau yn y car! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Unlawful Killings - Wendy Joseph KC Mochyn Tynged - Glenda Carr Y Trên Bwled Olaf o Ninefe - Daniel Davies A Terrible Kindness - Jo Browning Wroe Sêr y nos yn gwenu - Casia Wiliam Mwy o Helynt - Rebecca Roberts Bring up the bodies - Hilary Mantel Hawk Quest a Imperial Fire - Robert Lyndon Salem -...

Jun 21, 202356 min

Chwadan Mewn Potel

Bethan yn datgelu prosiect Chwadan Mewn Potel, pwysigrwydd llyfrau da ar ward mewn ysbyty, silff lyfrau (rhyfedd) Dafydd, a be mae pawb wedi bod yn sgwennu. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Actores a Mam - Sharon Morgan Croesi Llinell - Mared Lewis Salem - Haf Llewelyn Hen Ferchetan - Ewan Smith No Holds Barred - Lyndon Stacey Needle - Patrice Lawrence How the Light Gets In - Katya Balen Gwlad yr Asyn - Wyn Mason ac Efa Blosse Mason Milionêrs - Marlyn Samuel Cwcw - Marly...

May 12, 20231 hr 1 min

Cloriau llyfrau gyda Siôn Tomos Owen

Rhifyn arbennig lle mae Aled yn trafod cloriau llyfrau gyda’r cyflwynydd, sgwenwr a dylunydd Siôn Tomos Owen. Mae Siôn wedi creu cloriau ar gyfer nifer o awduron yn cynnwys Bethan a Dafydd ac mae’n obsessed gyda chloriau llyfrau. Be sy'n neud clawr da? Lliwiau, fonts, delweddau a phob dim sy’n denu eich sylw at lyfr.

Apr 14, 202340 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android
Open in Metacast