Am Filiwn - podcast cover

Am Filiwn

Prifysgol Bangorwww.bangor.ac.uk
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!

Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.

Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!

Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!

Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
Last refreshed:
Follow this podcast in the Metacast mobile app to refresh it and see new episodes.
Download Metacast podcast app
Podcasts are better in Metacast mobile app
Don't just listen to podcasts. Learn from them with transcripts, summaries, and chapters for every episode. Skim, search, and bookmark insights. Learn more

Episodes

Am Lwyfan

Pam bod cymaint o berfformwyr yn dewis dilyn cwrs dysgu? Ydy hi wir yn bosib cael yr un wefr â’r theatr, y gig neu’r stiwdio o flaen disgyblion? Mi fydd Rhian-Mair Jones yn holi’r canwr, John Ieuan Jones, Marged Rhys sy’n aelod o’r band gwerin Plu , Lora Lewis, sydd wedi treulio blynyddoedd yn llais cefndir i sawl grŵp, yr actores, Victoria Pugh, Rhys Edwards o Fleur de Lis a’r pennaeth ysgol, Gareth Owen, er mwyn gweld pa mor hawdd ydy symud o’r llwyfan a’r llifoleuadau i awditoriwm gyffrous yr...

Aug 11, 20231 hr

Beth, pam a sut ydyn ni’n trawsieithu?

Bydd y Dr Cen Williams a fathodd y term trawsieithu, Yr Athro Enlli Thomas, Dr Bryn Jones o Brifysgol Bangor a Dr Sian Lloyd-Williams, Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr AGA Prifysgol Bangor yn mynd i’r afael â thrawsieithu yn y podlediad yma.

Jul 07, 202352 minEp. 5

Am Lythrennedd

Pam bod gennym ni Fframwaith Llythrennedd? Sut mae dod i ddeall bod llythrennedd yn hanfodol ar draws y cwricwlwm? Dafydd Roberts a Medi Wyn Edwards o GwE, a Sion Owen o Brifysgol Abertawe sy’n trafod y datblygiadau diweddaraf yn y sectorau cynradd ac uwchradd a’r cyffro newydd am lythrennedd.

Jun 23, 202353 minEp. 4

Am Drochfa

Beth am blymio i’r dwfn efo ni ar ymweliad â Chanolfan Iaith Porthmadog yng Ngwynedd er mwyn dysgu mwy am natur y gwaith eithriadol sy’n digwydd yno dan ofal Cari Haf Lewis. Mi gawn ni gyfarfod Jess a Chloe a’u rhieni - dwy ferch arbennig sy’n hapus braf yn sgwrsio yn y Gymraeg yn dilyn eu trochfa ddwys yn yr iaith.

Jun 09, 202347 minEp. 3

Am Drochi

Mae ymchwil yn dangos mai trochi disgyblion mewn iaith newydd yw’r ffordd orau o gaffael yr iaith honno. Ond beth yn union yw trochi a phryd mae o’n digwydd? Er mwyn gwybod mwy am werth y gwaith anhygoel sy’n digwydd mewn gwahanol ganolfannau a deall mwy am y cefndir academaidd, ymunwch efo Nesta Davies, Pennaeth Uned Iaith Ynys Môn, Dr Mirain Rhys, darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd a Siân Alwen, Pennaeth Mewn Gofal Ysgol Glan Clwyd er mwyn bwrw goleuni ar drochi.

May 26, 202357 minEp. 2

AmDani

Ar ben pob dim arall, mae’r Siarter Iaith a’r pwysau ar athrawon ddatblygu Cymraeg Cymdeithasol y disgyblion! Beth ydy pwrpas hyn? Ymunwch efo Gwenan Ellis Jones, Awdurdod Addysg Gwynedd, Iona Llŷr o Awdurdod Addysg Sir Caer, Gareth Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gŵyr, a disgyblion Ysgol Brynrefail er mwyn cael deall yn union pam bod datblygu a defnyddio’r iaith y tu allan i furiau’r dosbarth yn hanfodol ac amhrisiadwy wrth fynd amdani am y miliwn.

May 12, 202353 minEp. 1

Croeso i bodlediad Am Filiwn

Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr! Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol. Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod...

May 05, 20232 min
For the best experience, listen in Metacast app for iOS or Android